Newyddion S4C

Codi'r rhan fwyaf o gyfyngiadau ymweld yn Ysbyty Llwynhelyg Hwlffordd

13/10/2021
Google Street View

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cadarnhau y bydd ymweliadau ag Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd yn ailgychwyn ddydd Mercher. 

Er hyn, fe fydd ymweliadau i wardiau 10 a 12 yn parhau i fod yn gyfyngedig am y tro. 

Daw hyn ar ôl i'r bwrdd iechyd gyhoeddi y bydden nhw'n cyfyngu ymweliadau i'r ysbyty ddydd Llun, yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 yn yr ysbyty a’r gymuned ehangach. 

Mae canlyniadau sgrinio cleifion ar gyfer Covid-19 ar draws yr ysbyty wedi galluogi'r bwrdd iechyd i ddiweddaru eu cyfyngiadau ymweld medd datganiad. 

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bod modd ymweld â ward 10 a 12 dim ond mewn amgylchiadau arbennig, megis ymweliadau diwedd oes ac ymweliadau critigol.

"Er mwyn sicrhau diogelwch staff a chleifion yr ysbyty, rydym yn parhau i annog unrhyw un sy'n ymweld ag unrhyw un o'n hysbytai ar gyfer apwyntiad neu i weld rhywun annwyl, i gynnal prawf dyfais llif ochrol (LFD) gartref cyn teithio i'r ysbyty," ychwanegodd. 

"Wrth ymweld â'n hysbytai, gwisgwch orchudd wyneb. Bydd gorchudd wyneb llawfeddygol yn cael ei ddarparu yn ei le yn y dderbynfa neu'r ward. Cadwch bellter cymdeithasol a golchwch eich dwylo mor aml â phosib gan ddefnyddio sebon a dŵr a glanweithydd dwylo.

"Rydym yn diolch i bawb am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon wrth i ni weithio i atal y feirws hwn rhag lledaenu."

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.