Newyddion S4C

Meddygon yn teimlo 'nad ydyn nhw'n barod' ar gyfer misoedd y gaeaf

Sky News 13/10/2021
Gwasanaeth brys

Mae meddygon yn credu nad yw'r GIG yn barod ar gyfer misoedd y gaeaf, yn ôl canlyniadau arolwg barn gan Goleg Brenhinol y Meddygon (RCP).

Yn ôl Sky News, mae'r arolwg yn dangos bod un o bob tri meddyg yn credu nad yw'r GIG wedi'i baratoi'n ddigonol ar gyfer yr heriau sydd o'u blaenau a bod meddygon hefyd yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu paratoi i ddelio â'r pwysau sydd i ddod. 

Dywedodd RCP fod llawer o feddygon wedi dweud yn yr arolwg barn eu bod yn dioddef o flinder, ac roedd bron i 37% yn dweud eu bod yn teimlo'n ddigalon. 

Daw hyn wrth i'r gwasanaeth iechyd baratoi ar gyfer gaeaf anodd oherwydd yr heriau parhaus yn sgil Covid-19 yn gymysg â'r ffliw tymhorol. 

Mae'r RCP nawr yn galw am gynllun i'r gweithlu er mwyn sicrhau fod digon o staff ar gael i'r GIG a gofal cymdeithasol ar gyfer y dyfodol.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.