Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mercher, 29 Medi.
Dim blaenoriaeth i weithwyr allweddol mewn gorsafoedd petrol, awgrymai Boris Johnson
Mae Boris Johnson wedi awgrymu na fydd gweithwyr allweddol yn cael blaenoriaeth mewn gorsafoedd petrol gan fod yr argyfwng tanwydd yn “sefydlogi”. Serch hynny, mae ffynhonnell o’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud wrth Sky News ei bod hi’n “debygol iawn” y bydd y fyddin yn dechrau darparu petrol a diesel i orsafoedd o fewn y diwrnodau nesaf.
‘Dim pwynt cario mlaen os dwi’n gwneud dim elw’
Mae seiri coed a gofaint wedi rhybuddio fod y prinder mewn deunyddiau adeiladu yn cael effaith ddinistriol ar ei busnesau. Yn ôl un cwmni gwaith pren o Feirionnydd, mae’n amhosib iddynt gystadlu gyda chwmnïau mawr sy’n gallu storio deunyddiau o flaen llaw.
Llofruddiaeth Sarah Everard: Cyn-heddwas i gael ei ddedfrydu
Fe fydd cyn-heddwas a wnaeth herwgipio, treisio a llofruddio Sarah Everard yn ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Mercher i gael ei ddedfrydu. Roedd Wayne Couzens, 48, yn heddwas gyda Heddlu’r Met pan gipiodd Ms Everard wrth iddi gerdded adref yn Clapham, de Llundain, ar 3 Mawrth.
Cerflun cyntaf o fenyw Gymreig i gael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd
Bydd y cerflun cyntaf o fenyw o Gymru yn cael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd ddydd Mercher. Ar ôl pleidlais yn 2019, Betty Campbell bydd y fenyw gyntaf i ymddangos ar ffurf cerflun yng Nghymru.
Denu pobl ifanc yn ‘anodd’ i gymdeithas gefeillio tref
Mae cymdeithasau gefeillio yn apelio ar bobl ifanc i ymuno er mwyn sicrhau eu dyfodol. Roedd trefi Hwlffordd yn Sir Benfro ag Oberkirch yn Yr Almaen yn paratoi i ddathlu 30 mlynedd o gyfeillgarwch yn 2019. Ond, oherwydd rhesymau tu hwnt i’w rheolaeth, nid oedd yn bosib dod ynghyd bryd hynny. Y gobaith oedd ail-drefnu ar gyfer 2020, ond mae’r pandemig wedi rhwystro hynny rhag digwydd.