Newyddion S4C

Dim blaenoriaeth i weithwyr allweddol mewn gorsafoedd petrol, awgrymai Boris Johnson

Sky News 29/09/2021
S4C

Mae Boris Johnson wedi awgrymu na fydd gweithwyr allweddol yn cael blaenoriaeth mewn gorsafoedd petrol gan fod yr argyfwng tanwydd yn “sefydlogi”.

Serch hynny, mae ffynhonnell o’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud wrth Sky News ei bod hi’n “debygol iawn” y bydd y fyddin yn dechrau darparu petrol a diesel i orsafoedd o fewn y diwrnodau nesaf.

Wedi dyddiau o anhrefn, ciwiau anferth a gorsafoedd yn rhedeg allan o danwydd, mae Mr Johnson yn dweud ei fod yn deall rhwystredigaeth gyrwyr sydd yn ei chael hi’n anodd llenwi eu cerbydau.

Ychwanegodd bod arwyddion o fewn y diwydiant bod y sefyllfa yn dechrau gwella, gyda chyflenwadau yn dychwelyd i lefelau arferol.

Dywedodd Brif Weinidog y DU: “Mae’r sefyllfa yn sefydlogi a dylai pobl fod yn hyderus a mynd o gwmpas eu busnes yn y ffordd arferol.

“Yr hyn yr ydym am ei wneud yw ein bod yn sicrhau bod gennym yr holl baratoadau sy'n angenrheidiol i fynd trwy'r Nadolig a thu hwnt, nid yn unig yn cyflenwi'r gorsafoedd petrol ond ym mhob rhan o'n cadwyn gyflenwi. "

Mae ffynonellau o’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn dweud y bydd tua 150 o yrwyr milwrol wrth law i yrru lorïau i fynd i'r afael â'r argyfwng.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.