Newyddion S4C

Cyn heddwas wedi defnyddio rheolau Covid-19 i herwgipio Sarah Everard

Evening Standard 29/09/2021
Sarah Everard

Fe ddefnyddiodd cyn-heddwas sydd wedi pledio'n euog i lofruddiodd Sarah Everard reolau Covid-19 i herwgipio’r fenyw 33 oed wrth iddi gerdded adref ar hyd strydoedd de Llundain.

Mae llys yr Old Bailey wedi bod yn clywed manylion y drosedd ddydd Mercher, wrth i Wayne Couzens gael ei ddedfrydu.

Fe wnaeth y dyn 48 oed ddangos ei gerdyn adnabod swyddogol i arestio Ms Everard yn Clapham ar 3 Mawrth.

Clywodd y llys bod Couzens yn cario “amrywiaeth o offer”, gan gynnwys cyffion dwylo, i wneud i Ms Everard gredu ei fod yn swyddog cudd oedd yn gwneud gwaith cyfreithlon i’r heddlu.

Ar ôl iddi gael ei rhoi yng ngherbyd Couzens, fe gafodd Ms Everard ei gyrru allan o’r ddinas, cyn iddi gael ei threisio a’i chrogi gan yr heddwas.

Yna fe losgodd ei chorff mewn coetir yng Nghaint, clywodd y llys.

Darllenwch y stori’n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.