Newyddion S4C

Denu pobl ifanc yn ‘anodd’ i gymdeithas gefeillio tref

29/09/2021

Denu pobl ifanc yn ‘anodd’ i gymdeithas gefeillio tref

Mae cymdeithasau gefeillio yn apelio ar bobl ifanc i ymuno er mwyn sicrhau eu dyfodol.

Roedd trefi Hwlffordd yn Sir Benfro ag Oberkirch yn Yr Almaen yn paratoi i ddathlu 30 mlynedd o gyfeillgarwch yn 2019.

Ond, oherwydd rhesymau tu hwnt i’w rheolaeth, nid oedd yn bosib dod ynghyd bryd hynny.

Y gobaith oedd ail-drefnu ar gyfer 2020, ond mae’r pandemig wedi rhwystro hynny rhag digwydd.

Nawr, mae trefnwyr yn gobeithio denu mwy o bobl ifanc i ymuno gyda’r fenter er mwyn sicrhau dyfodol hirdymor y cyfeillgarwch.

‘Ma’ ishe ni gael fwy o bobl ifanc’

Dywedodd Roy Thomas, Cadeirydd Cymdeithas Gefeillio Hwlffordd wrth Newyddion S4C: “Wrth gwrs, ni ‘di dod nawr i lle le ma’ fwy o’r bobl henaint de yn ‘neud y cyfeillio hyn, a ni’n treial cael pobl ifanc ‘nôl mewn a mae’n anodd. 

“I fod yn onest, mae Oberkirch yn Yr Almaen wedi ‘neud yn dda ar bobl ifanc. Ma’ nhw ‘di bod lawr sawl gwaith ac wedi dod ac wedi cymysgu gyda ni ac wedi mwynhau eu hunain.

“Ni gyd yn mynd yn henach a ma’ ishe ni gael lawer fwy o bobl ifanc yn y gymdeithas”, ychwanegodd Mr Thomas.

Image
Roy Thomas
Roy Thomas, Cadeirydd Cymdeithas Gyfeillio Hwlffordd

Roedd 2019 am fod yn flwyddyn arbennig gyda dau ymweliad mewn 12 mis, wrth i drigolion Hwlffordd deithio i Oberkirch a thrigolion Oberkirch deithio i’r dref yng nghanol Sir Benfro.

Eglurodd Roy Thomas: “Ni fod ‘neud 30 celebrations ‘nôl yn 2019, ond ffaelon ni ‘neud hynny achos o’dd pethach ddim yn iawn mas yn Oberkirch so beth nethon ni o’dd paratoi am 2020. 

“Ond, wrth gwrs, daeth y Covid mewn a ma’ hwnna wedi dodi stop ar bopeth. Ni ‘di ffaelu cwrdd fel cymdeithas a mae e wedi dodi stop ar beth gallen ni ‘di plano”.

Dywedodd Johanna Graupe, Cadeirydd Cymdeithas Gyfeillio Oberkirch wrth Newyddion S4C: “Mae pobl Hwlffordd a phobl Oberkirch yn ffitio’n dda iawn gyda’i gilydd. Mae’n ardal wledig yma gyda gwin a ffrwythau. Mae llawer o gyfeillgarwch yn parhau yn ystod adeg Corona.

“Rydym wedi gorfod addasu ond dwi’n meddwl bod y cyswllt personol a’r ymweliadau yma yn fwy pwysig”, ychwanegodd.

“Mae wedi bod ychydig yn fwy anodd”.

Yn ôl Mr Thomas, mae’r profiadau o’r cyfeillgarwch rhwng y trefi ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn arbennig.

Ond, gyda’r ansicrwydd parhaus am reolau teithio rhyngwladol, yr her nawr yw cynllunio ar gyfer y dyfodol.

“Mis nesa’, ma’ rhaid i ni fynd at ein gilydd fel cymdeithas a dechre o’r dechre ‘to mewn ffordd, a chael gweld beth digwyddith o fynna ‘mlaen”, meddai.

“Gobeithio bydd y ‘normal’ os wedoch chi yn dod ‘nôl yn glouach nag ‘yn ni’n meddwl ondyfe?”

Angen ‘mwy o hysbysebu’

Mae Heather Rees yn ysgrifenyddes i grŵp gefeillio Pontardawe ac mae hi hefyd yn meddwl bod cyfleoedd o’r fath yn fuddiol i bobl ifanc.

Ers yn blentyn mae Ms Rees wedi cael cyfle i ymweld â thref Locminé yn Ffrainc drwy’r bartneriaeth gefeillio. Ond yn y 25 mlynedd diwethaf mae hi wedi gweld llai o ddiddordeb yn y gymdeithas.

“Mae cael y profiad o fynd draw i Ffrainc, a siarad a byw draw yna a neud ffrindiau mawr wedi hybu fi i astudio Ffrangeg yn y brifysgol.

“Dwi’n credu bod diddordeb ymysg pobl ifanc wedi lleihau yn y gymdeithas gan fod mwy o gyfleodd i fynd dramor, a gymaint o ddewis y diwrnodau yma.

“Fi’n credu hefyd bod cymdeithasau ddim yn hysbysebu digon chwaith, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol i ddenu a lledu neges y gymdeithas.

“Falle bod angen mynd nôl mewn i’r ysgolion fel bod y rhieni a phobl ifanc yn gallu gwerthfawrogi cymdeithasau fel hyn,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.