'Calon o aur': Teyrnged teulu i fam-gu a fu farw wedi gwrthdrawiad yn y Barri
Mae teulu menyw a fu farw mewn gwrthdrawiad ffordd yn y Barri, Bro Morgannwg wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Jacqueline Ellis yn dilyn gwrthdrawiad ar Ffordd Y Mileniwm yn y dref, ddydd Llun 29 Medi.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Mercedes C220 du, a Jacqueline Ellis, a oedd yn cerdded ar y pryd.
Cafodd ei chludo i'r ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad, ond bu farw ar 10 Hydref.
'Calon o aur'
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd teulu Jacqueline Ellis bod ganddi "galon o aur".
"Bydd marwolaeth sydyn Jacqueline mewn amgylchiadau mor ddinistriol yn gadael gwagle na fydd fyth yn cael ei lenwi," meddai'r teulu.
"Roedd gan Jacqueline galon o aur a byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un."
Fe aeth y datganiad ymlaen i ddweud ei bod yn "fam, fam-gu a hen fam-gu ymroddedig".
"Bydd ein hatgofion o Jacqueline yn para am oes ac ni fydd yr atgofion sydd gennym gyda'n gilydd fel teulu fyth yn cael eu hanghofio," meddai'r teulu.
"Fel teulu hoffem ddiolch i bawb sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth ac rydym yn gofyn nawr am amser i alaru gyda'n gilydd."
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â lluniau i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2500312080.

