Teyrngedau i'r actor Tony Adams sydd marw yn 84 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actor yn enedigol o Ynys Môn, Tony Adams, sydd wedi marw yn 84 oed.
Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel cymeriad Adam Chance yn yr opera sebon Crossroads.
Bu farw Tony Adams yn Ysbyty Sir Sussex yn Brighton ddydd Sadwrn, gyda’i wraig Christine wrth ei ochr.
Cafodd yr actor ei eni ar Ynys Môn yn 1940 ac fe gafodd ei hyfforddi fel actor yn ysgol Theatr Italia Conti yn Woking, de Lloegr.
Symudodd o'r byd theatr i'r sgrin fach ac fe ddechreuodd ei yrfa ar opera sebon General Hospital ac ar gyfres Dr Who.
Adam Chance yn yr opera sebon Crossroads oedd ei gymeriad enwocaf. Roedd y gyfres ar yr awyr am 10 mlynedd gyda chymeriad Mr Adams yn un o'r hoelion wyth.
Fe ymddangosodd Adams yn fersiwn theatr Chitty Chitty Bang Bang yn Theatr Palladium Llundain, lle chwaraeodd Grandpa Potts, yn 2004.
Yn 2023, cafodd rôl cameo yn Nolly – drama dair pennod a gafodd ei chreu gan Russell T Davies sy’n adrodd hanes yr actores Noele Gordon o'r gyfres Crossroads.
Disgrifiodd yr actor Augustus Prew, a chwaraeodd Tony Adams yn y ddrama, yr actor fel “dyn hudolus” yn ystod cyfweliadau ar y pryd.
'Cynnes'
Mewn teyrnged, fe ddywedodd y cynhyrchydd theatr Michael Rose bod Tony Adams yn ddyn "llawen" ac actor, dawnsiwr a chanwr talentog.
“Roedd yn un o’r boneddigion mwyaf caredig ac annwyl y gallech chi ddymuno gweithio gyda nhw,” meddai Mr Rose.
“Roedd yn berson mor llawen. Roedd yn ddawnsiwr yn wreiddiol ond nid oedd unrhyw beth na allai Tony ei wneud.
“Roedd yn actor dawnus iawn, roedd yn ddawnsiwr a chanwr da iawn.
“Chwaraeodd ran Grandpa Potts yn Chitty Chitty Bang Bang ac roedd yn bleser i’w gael yn rhan o'r sioe, fel yr oedd ym mhob un sioe.
“Byddwn yn ei golli.”

