Arestio person wedi honiadau o gasineb hiliol mewn gêm bêl-droed ar Ynys Môn
Mae person ifanc wedi’i arestio yn dilyn honiadau bod sylw hiliol wedi cael ei wneud tuag at chwaraewr pêl-droed yn ystod gêm ar Ynys Môn.
Mae Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio i achos honedig o gasineb wedi adroddiad bod ‘sarhad hiliol wedi’i weiddi’ tuag at chwaraewr yn ystod y gêm rhwng Clwb Pêl-droed Tref Llangefni a Chlwb Pêl-droed Bae Trearddur ddydd Gwener 24 Hydref.
Cafodd y person ei arestio ac mae e bellach ar fechnïaeth gydag amodau, wrth i’r llu gwblhau eu hymholiadau.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis: "Ni fyddwn yn goddef hiliaeth mewn unrhyw ffurf mewn unrhyw le yn ein cymunedau ni – oddi mewn neu du allan i chwaraeon.
"Cymerodd swyddogion gamau cyflym yn dilyn riportio'r digwyddiad er mwyn adnabod y rhai a oedd yn gysylltiedig.
"Buaswn i'n hoffi diolch i'r ddau glwb pêl-droed am eu cefnogaeth barhaus.
Mewn datganiad ar gyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gêm, dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Tref Llangefni: “Nid oes lle o gwbl i hiliaeth na gwahaniaethu o unrhyw fath yn ein clwb, ym mhêl-droed, nac yn ein cymuned.
"Rydym yn estyn ein hymddiheuriadau diffuant i’r chwaraewr ac i Glwb Pêl-droed Bae Trearddur am yr ymddygiad annerbyniol hwn.
"Nid yw Clwb Pêl-droed Tref Llangefni yn derbyn hiliaeth o unrhyw fath. Rydym yn gweithio i adnabod yr unigolyn dan sylw ac yn addo cymryd y camau mwyaf llym unwaith y byddant wedi’u hadnabod.
“Rydym yn annog unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu sydd â gwybodaeth berthnasol, i ddod ymlaen a chysylltu’n uniongyrchol â’r clwb yn gyfrinachol.
“Mae Clwb Pêl-droed Tref Llangefni yn sefyll yn gadarn dros barch a chydraddoldeb — ar ac oddi ar y cae.”
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

