Statws arbennig i Brifysgol Abertawe am gefnogi ffoaduriaid
Statws arbennig i Brifysgol Abertawe am gefnogi ffoaduriaid
Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau statws Prifysgol Noddfa.
Mae’r teitl yn cael ei roi fel cydnabyddiaeth o’r croeso a’r cymorth mae prifysgol yn ei gynnig i bobl sydd wedi ffoi o’u cartrefi oherwydd gwrthdaro.
"Mae’n gynllun cyffrous iawn, sy’n dangos yn glir ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gefnogi’r rheiny sy’n wynebu cyfnodau ofnadwy," meddai'r Athro Gwenno Ffrancon, dirprwy is-ganghellor cynorthwyol y brifysgol.
Abertawe oedd y ddinas gyntaf yng Nghymru i gael statws noddfa nôl yn 2010.
Nawr, mae rhoddion ariannol gan gefnogwyr a chyn-fyfyrwyr y brifysgol yn golygu ei bod wedi bod yn bosib helpu’r rhai sy’n gorfod ffoi o’u cartrefi i barhau â’u hastudiaethau.
"Ry' ni wedi gefeillio gyda phrifysgol yn Wcráin, ac ry' ni felly’n cynnig cyfleoedd i’w staff academaidd nhw i barhau i gael cefnogaeth o ran eu hymchwil, cyfleoedd addysgu, adnodau tuag at hynny," meddai'r Athro Ffrancon.
"A hefyd ry' ni wedi cynnig cyfleoedd i dros 50 o fyfyrwyr i ddod yma i astudio am semester, ac i fanteisio ar yr hyn sydd gan y brifysgol i’w chynnig tra’i bod nhw’n wynebu cyfnod ofnadwy o anodd yn eu bywydau.
"Ar ben hynny, ni’n cynnig ysgoloriaethau meistr i’r myfyrwyr fel eu bod nhw’n gallu dod yma i astudio."
'Torri'n rhydd o rwystrau'
Mae mwyafrif prifysgolion Cymru’n cynnig ysgoloriaethau tebyg i’r rheiny sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.
Mae Milad Mirzaee wedi elwa o gynllun ym Mhrifysgol De Cymru.
"Mae’r ysgoloriaeth noddfa yn bwysig iawn, mae’n rhoi cyfle i’r rheiny sy’n chwilio am loches i astudio, pan nad yw hi’n bosib yn ariannol iddyn nhw wneud hynny," meddai.
Bu’n rhaid iddo adael ei deulu a ffoi o Affganistan ddwy flynedd yn ôl.
Ym mis Ionawr, bydd yn graddio ar ôl astudio gradd feistr mewn Peirianneg Fecanyddol.
"I fi’n bersonol, mae’r cynllun wedi bod yn fwy na hwb ariannol, mae e wedi fy helpu i dorri’n rhydd o rwystrau fy sefyllfa bersonol i," meddai.
"Heb yr ysgoloriaeth fe fydden i wedi gorfod aros gartref. Fe fydde hynny wedi effeithio arna i’n seicolegol."
'Cynnig gobaith a dynoliaeth'
Pwysleisio buddiannau’r cynllun mae’r Athro Mike Chick hefyd, wrth iddo gyd-lynu’r gwaith o helpu ffoaduriaid ym Mhrifysgol De Cymru.
"Fel prifysgol noddfa, rydym ni’n cynnig gobaith a dynoliaeth nid rhaniad a chasineb, mae gan ffoaduriaid gymaint o sgiliau a galluoedd i’w cynnig," meddai.
Yn y cyfamser mae’r ymdrechion i geisio sicrhau statws Cenedl Noddfa i Gymru’n parhau.
Mae rhyw 55 miliwn o bunnau wedi ei wario ar helpu pobl i ymgartrefu yng Nghymru dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae rhan helaeth o’r arian wedi ei wario ar helpu pobl o Wcráin.
Mae’r blaid Lafur, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi’r cynllun, ond mae’r Ceidwadwyr a Reform UK yn gwrthwynebu’r gost.
Tra bod y gwleidyddion yn dal i ddadlau am werth a chost statws Cenedl Noddfa, mae’r rhwydwaith o brifysgolion noddfa yng Nghymru a thrwy’r Deyrnas Unedig yn dal i dyfu, gan gynnig gobaith a chyfleoedd i’r rheiny sydd wedi gorfod ffoi, mewn amgylchiadau anodd.
