Galwadau ar Farage i wahardd Sarah Pochin yn sgil ffrae am hiliaeth

Llun: PA
Nigel Farage / Sarah Pochin

Mae Nigel Farage yn wynebu galwadau i wahardd Aelod Seneddol Reform UK a wnaeth sylwadau yn ddiweddar am bobl ddu ac Asiaidd. 

Mewn cyfweliad teledu, dywedodd Sarah Pochin: "Mae'n fy ngwneud yn benwan pan rydw i'n gweld hysbysebion yn llawn pobl ddu, yn llawn pobl Asiaidd."

Mae'r Blaid Lafur wedi ysgrifennu at Nigel Farage yn galw arno i "egluro ar unwaith" a yw'n cefnogi sylwadau Sarah Pochin. 

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, dylai golli'r chwip yn San Steffan.  

Cafodd Ms Pochin ei hethol yn Aelod Seneddol Runcorn a Helsby ar ôl isetholiad yn gynharach eleni. Mae hi bellach wedi dweud bod ei sylwadau ddydd Sadwrn wedi eu "mynegi yn wael" ac mae hi wedi ymddiheuro am achosi unrhyw loes.   

Ond mewn llythyr at Nigel Farage, mae Cadeirydd y Blaid Lafur yn San Steffan, Anna Turley yn nodi bod y sylwadau yn "hiliol."  

"Ydych chi yn cefnogi sylwadau Sarah Pochin? Ac a fedrwch gadarnhau a yw ei sylwadau hi ar hil yn cael ei groesawu yn Reform UK?" ysgrifennodd ddydd Llun. 

" Mae dweud fod pobl ddu ac Asiaidd mewn hysbysebion teledu 'yn ei gwneud yn benwan' yn hiliol. Mae gennych y grym i dynnu chwip Reform UK oddi ar Sarah Pochin.

"Dylech wneud hynny heddiw," meddai. 

Tra'n cael ei holi gan newyddiadurwyr brynhawn Llun, dywedodd Nigel Farage fod sylwadau Sarah Pochin yn "hyll, annymunol ac annoeth" ond mynnodd nad oedd yr hyn a ddywedodd yn hiliol.    

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.