Neil Foden: Heddlu yn arestio dau ddyn fel rhan o ymchwiliadau pellach i’r pedoffeil
Mae Heddlu’r Gogledd wedi cadarnhau bod dau berson wedi’u harestio’n gynharach eleni, fel rhan o ymholiadau pellach yn ymwneud â’r pedoffeil, Neil Foden.
Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau fod y ddau ddyn yn parhau dan ymchwiliad.
Dywedodd y llu fod y ddau wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i honiadau o “gamdrin nad oedd yn rhai diweddar” a bod yr honiadau yn ymwneud â “chynnal perthnasoedd amhriodol”.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Rydym yn cydweithio’n agos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod ni’n diogelu unrhyw un sydd yn fregus fel blaenoriaeth, wrth i’n hymchwiliadau barhau.”
Yn ôl ITV News Cymru, mae’r ddau ddyn wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd yr heddlu “nad oedd modd iddynt wneud sylwadau pellach” gan fod yr ymchwiliad yn un byw.
“Rydym yn parhau i annog unrhyw aelodau o’r cyhoedd i ddod ymlaen gyda gwybodaeth ac fe allwn sicrhau y byddai unrhyw un sydd am roi gwybodaeth yn cael eu cymryd o ddifrif,” ychwanegodd y llu.
Oedi adolygiad
Daw wrth i ddioddefwyr Neil Foden ddisgwyl am adroddiad ynglŷn â’r “gwersi a ddysgwyd” yn sgil troseddau’r cyn-brifathro.
Cafodd cyfarfod i rannu canfyddiadau Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol ei ganslo gyda llai na 24 awr o rybudd fis diwethaf gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Cafodd yr adolygiad, dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE, ei gomisiynu fis Awst y llynedd yn dilyn euogfarn Foden.
Fe'i cafwyd yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.
Yn dilyn cais am ymateb i’r arestiadau pellach, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd na fyddai’n briodol gwneud sylw pellach.
Nid os dyddiad newydd wedi’i roi ar gyfer cyhoeddi’r canfyddiadau Adolygiad Ymarfer Plant.
Mae’r cyngor wedi dweud yn flaenorol ei fod yn barod i “weithredu ar unrhyw ganfyddiadau ac argymhellion heb oedi.”
Llun: Ysgol Friars (ITV Cymru Wales)
