Ffordd ar gau wedi gwrthdrawiad difrifol ar gyrion Caerdydd

rover way

Mae'r heddlu wedi rhybuddio fod ffordd ar gau ar gyrion Caerdydd yn dilyn gwrthdrawiad difrifol fore Llun.

Ffordd Rover yn ardal Sblot o'r brifddinas yw un o'r prif ffyrdd sy'n cysylltu Bae Caerdydd a thraffordd yr M4.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod swyddogion yn bresennol wrth ymateb i'r digwyddiad

Mae'r heddlu hefyd wedi rhybuddio gyrwyr i osgoi'r ardal, gan fod disgwyl i'r ffordd barhau ar gau am beth amser.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.