Pwysau ar benaethiaid carchardai i wneud mwy yn sgil achos Hadush Kebatu
Mae angen i benaethiaid carchardai yng Nghymru a Lloegr roi sicrwydd bod archwiliadau manwl wedi eu gwneud, cyn rhyddhau carcharorion o ddydd Llun ymlaen.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gweithdrefnau gorfodol newydd ar ôl i fewnfudwr gael ei ryddhau ar ddamwain o Garchar Chelmsford ddydd Gwener, cyn iddo gael ei ail-arestio gan yr heddlu.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, David Lammy yn rhoi bras syniad o ymchwiliad annibynnol yn y Senedd ddydd Llun i sut y cafodd y troseddwr rhyw sydd hefyd yn geisiwr lloches, Hadush Kebatu ei ryddhau o'r carchar ar ddamwain.
Mae swyddog o garchar Chelmsford yn Essex wedi'i wahardd o'i waith tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r digwyddiad.
Fe gafodd Kebatu ei arestio yn ardal Finsbury Park yng ngogledd Llundain am 08:30 ddydd Sul, wedi chwilio mawr amdano dros y 48 awr ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.
Roedd Kebatu, a gafodd ei ddedfrydu fis diwethaf am ymosod yn rhywiol ar ferch 14 oed, yn ogystal ag un fenyw arall yn Epping, tra'n byw mewn gwesty i geiswyr lloches, i fod i gael ei orfodi o'r wlad pan gafodd ei ryddhau ar gam gan staff y carchar.
Wedi i Kebatu gael ei arestio'n wreiddiol ym mis Gorffennaf, fe gafodd protestiadau eu cynnal tu allan i Westy'r Bell yn Epping, lle'r oedd wedi bod yn byw ers iddo gyrraedd y DU yn anghyfreithlon.
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer fod ymchwiliad eisoes ar y gweill, gan ychwanegu: "Rhaid i ni sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."
Mae disgwyl i Kebatu gael ei anfon o'r wlad yn ddiweddarach yr wythnos hon.
