‘Dwi ‘di trio am dros 100 o swyddi': Merch 18 oed yn poeni dibynnu ar gredyd cynhwysol am byth
‘Dwi ‘di trio am dros 100 o swyddi': Merch 18 oed yn poeni dibynnu ar gredyd cynhwysol am byth
Mae diweithdra ymysg ieuenctid yn cynyddu - a phobl ifanc o gefndiroedd dosbarth gweithiol yng Nghymru yw’r rhai mwyaf tebygol o fod yn ddi-waith yn y Deyrnas Unedig.
De-Ddwyrain Cymru welodd y gostyngiad mwyaf yn nifer y bobl mewn cyflogaeth eleni, a Rhondda Cynon Taf sydd â’r cyfraddau cyflogaeth isaf i bobl ifanc yn y rhanbarth.
Un o’r rheiny sydd yn ddi-waith yng Nghwm Rhondda yw Sophie Thompson, 18, o Lwynypia.
Ar ôl gadael ysgol ym mis Ionawr, roedd Sophie yn edrych ymlaen i gael ei swydd gyntaf ac i fod yn annibynnol. Naw mis yn ddiweddarach ac ar ôl ymgeisio am dros 100 o swyddi, mae Sophie dal yn ddi-waith ac yn ansicr am ei dyfodol.
“Dwi’n ifanc, fi ishe ‘neud rhywbeth gyda bywyd fi, ond fi ddim - fi’n eistedd ar y ffôn, fi’n edrych am swydd, a fi’n gweld yr un pethau trwy’r amser…Ma’ fe’n annoying” meddai.
“Ma’ cyfleoedd yn y Rhondda yn jyst awful - does dim digon ohonyn nhw," dywedodd Sophie wrth raglen Y Byd ar Bedwar.
Dim ond 44.9% o bobl 16-24 oed yn Rhondda Cynon Taf sydd yn gweithio, i gymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru o 52.5%.
O fewn y mis cyntaf o fod yn ddi-waith, dywedodd Sophie ei bod hi wedi ymgeisio am bron i 50 swydd, heb unrhyw lwyddiant.
“Pan dwi’n clywed nôl gan gyflogwyr, ma’ nhw’n dweud, ‘does dim profiad gen ti’, ond rhan fwyaf o’r amser, mae jyst yn radio silence - fi ddim yn clywed dim byd wrthyn nhw.”
“Fi jyst eisiau rhywun i weld bod fi’n trïo mor galed.”
“Fi eisiau nhw jyst i mynd, ‘Ie, mae gyda hi y graddau [TGAU], y cymhelliant i wneud e, fi eisiau hi i ‘neud y swydd yma,” meddai.
‘Dylai’r Llywodraeth wneud mwy’
Ar ôl cael ei gwrthod sawl gwaith, fe wnaeth Sophie droi i’r Ganolfan Byd Gwaith am gymorth drwy Gredyd Cynhwysol - budd-daliad i’r rheiny sydd allan o waith neu ar incwm isel.
Fis Medi eleni, fe wnaeth nifer y bobl sydd yn hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru gynyddu i dros 418,000 o bobol - record newydd.
Mae Sophie nawr yn derbyn £311 y mis. I dderbyn y budd-daliad, maen rhaid i Sophie brofi ei bod hi wedi chwilio am waith am oleiaf 35 awr bob wythnos.
Er ei bod hi’n ddiolchgar am y cymorth, mae Sophie yn teimlo dylai mwy gael ei wneud i helpu pobl ifanc i ffeindio gwaith mewn ardaloedd fel Rhondda Cynon Taf.
“Mae Credyd Cynhwysol yn dda ond dyw e ddim yn ddigon….dylai’r Llywodraeth wneud mwy, i greu swyddi i bobl ifanc yn y Rhondda a phobl yn gyffredinol."
“Mae na gymaint o bobl heb waith sydd ar Gredyd Cynhwysol sydd eisiau gweithio,” meddai Sophie.
Fel un o’r nifer o bobl ifanc sydd yn ddi-waith yng Nghymru, mae Sophie yn dechrau cwestiynu os bydd hi byth yn ffeindio swydd yn ei hardal enedigol.
“Ma’ fe mor rhwystredig oherwydd ma’ pawb yn dweud, ‘ma’ llawer o lefydd i gael swydd yn y Rhondda.’ Mae ‘na ddim. Does dim."
“Mae’n ‘neud i fi deimlo weithiau bod, like, fi ddim yn ddigon da i mynd mewn i gwaith. Like, weithiau fi’n meddwl, ‘fi mynd i bod ar Universal Credit am weddill o fy mywyd’, a fi ddim eisiau,” meddai Sophie.
“Dwi eisiau gwneud rhywbeth gyda bywyd fi…dwi jyst angen i rywun i roi siawns i fi.”
Mewn ymateb i bryderon Sophie, dywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn deall yr heriau y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau gwaith, ac felly rydym wedi sefydlu'r Warant i Bobl Ifanc, gan helpu pobl ifanc 16-24 oed yng Nghymru i sicrhau lle mewn addysg, hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu hyd yn oed dechrau eu busnes eu hunain.
"Ein bwriad yw i bobl ifanc ffynnu yn ein heconomi. Gall pobl ifanc gael mynediad at arweiniad a chyngor trwy Gymru’n Gweithio ac mae hyn yn cael ei gefnogi gan amrywiaeth o raglenni megis Twf Swyddi Cymru + - sydd wedi cefnogi 15,500 o bobl ifanc i gael y sgiliau, cymwysterau a phrofiad sydd eu hangen i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
"Ers ei lansio, mae’r Warant i Bobl Ifanc wedi helpu dros 60,000 o bobl ifanc i gymryd rhan mewn rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau yng Nghymru. O'r rhain, mae bron 9,000 o bobl ifanc wedi symud ymlaen i gyflogaeth a mwy na 850 wedi dechrau eu busnes eu hunain.”
Gwyliwch Y Byd ar Bedwar, ‘Diwaith, Diobaith’ nos Lun am 20:00 ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.