'Cam mawr yn y cyfeiriad cywir': Prifysgol Caerdydd i ddatblygu eu llety Cymraeg

Senghennydd x Cynwal

Mae'r ffaith y bydd holl fflatiau Cymraeg Llys Senghennydd ym Mhrifysgol Caerdydd mewn un bloc ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn "gam mawr yn y cyfeiriad cywir" yn ôl Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr y brifysgol. 

Ar hyn o bryd, mae'r fflatiau ar gyfer myfyrwyr sy'n dewis rhannu gyda siaradwyr Cymraeg yn Llys Senghennydd ar wasgar dros dri bloc gwahanol.

Ond o'r flwyddyn academaidd nesaf ymlaen, fe fydd yr holl fflatiau yn yr un bloc. 

Fe fydd yr opsiwn o gael fflat Gymraeg hefyd yn parhau yn neuaddau Gogledd Talybont a Thŷ Clodien. 

Mae hon yn fuddugoliaeth fawr i fyfyrwyr Cymraeg yn ôl Cynwal ap Myrddin, Is-lywydd y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. 

Fe gafodd swydd Is-lywydd y Gymraeg ei sefydlu yn llawn amser ym mis Gorffennaf 2023, ac mae sicrhau fod holl fflatiau Llys Senghennydd yn yr un bloc wedi bod yn hollbwysig ers y dechrau.

"Ers tair blynedd, dechrau'r swydd yma, mae o wedi bod ar faniffesto yr is-lywyddion, bo' nhw am ymdrechu i gael neuadd Gymraeg a ma'r ddau o fy mlaen i 'di dechra'r trafodaethau ond yn anffodus, teimlo fel eu bod nhw'n hitio wal," meddai Cynwal wrth Newyddion S4C.  

"Dyna oedd fy mhrif flaenoriaeth i ar gyfer y flwyddyn yma oedd sicrhau bod 'na neuadd Gymraeg o ryw fath ar gael i fyfyrwyr sy'n dod i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd."

'Rhwystredig'

Mae Cynwal yn gobeithio y bydd y datblygiad yn sicrhau y bydd myfyrwyr yn teimlo yn fwy cyfforddus wrth symud i'r brifddinas.

"O brofiad personol, o'dd o'n eitha rhwystredig bo' ni'n gorfod symud o un bloc i 'llall yn hytrach na bod o'n hawdd i fynd o fflat i fflat," meddai.

"Y gobaith felly ydi drwy glystyru y fflatiau Cymraeg i gyd mewn un bloc yn Senghennydd, neith o ddyfnhau cymdeithasu yn enwedig yn yr wythnosau cyntaf 'na a llyfnhau y broses o gael myfyrwyr i gartrefu yma yng Nghaerdydd ac o ganlyniad i hynny, cryfhau y Gymdeithas Gymraeg, gwneud hi'n fwy agored a deniadol i ddarpar fyfyrwyr."

'Newid y naratif'

Mae gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth neuaddau Cymraeg eu hunain, sef Neuadd John Morris Jones ym Mangor a Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth. 

Yn ôl Cynwal, mae'n gobeithio y bydd y datblygiad yn caniatáu Prifysgol Caerdydd i gynnig yr un cyfleoedd â'r prifysgolion eraill.  

"Gobeithio newid y naratif 'na bod Prifysgol Caerdydd yn brifysgol Gymreig a Chymraeg a bo' ni'n medru cynnig yr un cyfleoedd i'r myfyrwyr â ma' prifysgolion Aberystwyth a Bangor sydd gan neuaddau Cymraeg," meddai.

"Fydd o'n beth ofnadwy o braf achos 'dan ni'n ystyried JMJ a Pantycelyn fel adeiladau eiconig sydd 'di bod yn feithrinfa i bob math o ymgyrchoedd a bandiau Cymraeg so gobeithio rŵan fydd Senghennydd yn datblygu dros amser," meddai. 

Ond er hyn, y freuddwyd ydi sicrhau Neuadd Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd yn ôl Cynwal. 

"Ma'n mynd i gymryd amser, ond bod hynny [neuadd Gymraeg] yn dod yn wir am Senghennydd hefyd," meddai. 

"Y gobaith ydi yn y pen draw un fysa bod nhw yn adeiladu neuadd Gymraeg yn bwrpasol, dyna ydi'r freuddwyd, 'dan ni'n bell iawn ohoni ar hyn o bryd, ond gobeithio mai dyna yn y pen draw fydd sefyllfa neuadd Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Ond ma' hwn yn gam mawr yn y cyfeiriad cywir a dwi'n ofnadwy o falch bod y brifysgol wedi gwrando ar lais y myfyrwyr a gweld hyn fel hawl a rhywbeth sydd yn angenrheidiol hefyd er mwyn cryfhau'r Gymraeg a rhoi teimlad Cymreig yn y brifysgol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.