Arestio bachgen 17 oed ar amheuaeth o fygwth lladd wedi i Ysgol Bro Myrddin gau ar fyr rybudd
Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd ar ôl i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin gloi ei drysau ar fyr rybudd brynhawn Mercher.
Cafodd staff a disgyblion eu cadw ar y safle am gyfnod ar gais yr heddlu ar ôl adroddiad am fygythiad i ddisgybl yn yr ysgol. Fe gadarnhaodd yr heddlu wedi 18.00 ddydd Mercher bod disgyblion wedi cael gadael.
Dywedodd yr heddlu y bydd yr ysgol ar agor fel arfer ddydd Iau ond bydd presenoldeb yr heddlu yno.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1998811148724912412?s=20
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys mewn datganiad fore Iau: “Yn dilyn ymholiadau am fygythiadau yn erbyn disgybl yn Ysgol Bro Myrddin, Caerfyrddin, brynhawn Mercher, a arweiniodd at gloi’r ysgol, mae bachgen 17 oed o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fygythiadau i ladd.
“Mae wedi’i gadw yn nalfa’r heddlu.
“Bydd yr ysgol ar agor fel arfer yfory [ddydd Iau], ond bydd presenoldeb gan yr heddlu i roi tawelwch meddwl a chefnogaeth i ddisgyblion a staff.”