Swyddogion Heddlu Gwent a rannodd negeseuon amhriodol wedi ymddiswyddo
Mae gwrandawiad camymddwyn difrifol wedi dyfarnu y byddai dau gyn-swyddog gyda Heddlu Gwent wedi eu diswyddo pe na bai nhw eisoes wedi ymddiswyddo.
Clywodd y gwrandawiad iddyn nhw rannu negeseuon hiliol, homoffobaidd a mysoginistaidd mewn grŵp WhatsApp.
Ymddiswyddoddd y cyn-gwnstabliaid Simon Lewis a James Heley ddydd Gwener 27 Chwefror, yn ôl Heddlu Gwent, cyn y gwrandawiad a gafodd ei gynnal ddydd Llun.
Doedd y cyn-blismyn ddim yn bresennol yn y gwrandawiad.
Roedd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr heddlu wedi bod yn ymchwilio i honiadau yn erbyn cyn-swyddogion yn ogystal â rhai presennol mewn cysylltiad â chynnwys negeseuon WhatsApp.
Dyfarnwyd fod Simon Lewis a James Heley wedi torri rheolau yn ymwneud â safonau proffesiynol, wrth ystyried nifer o ffactorau fel awdurdod, parch a chydraddoldeb.
Rhwng Ebrill 2015 a Chwefror 2019, fe anfonodd y swyddogion gyfres o negeseuon a gafodd eu disgrifio fel rhai "cwbl amharchus."
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod y cyn-gwnstabl Heley hefyd wedi torri rheolau yn ymwneud â chyfrinachedd.
Roedd y cyn-gwnstabl Lewis wedi torri'r rheolau mewn cyswllt â herio a chofnodi ymddygiad amhriodol, yn ôl y gwrandawiad.
Wedi'r gwrandawiad, dyweodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Mark Hobrough: “Roedd y negesuon WhatsApp a gafodd eu hanfon gan y cyn-swyddogion yn ffiaidd, yn gwbl hiliol, homoffobig a misoginistaidd - agweddau na ddylai fod o fewn plismona na'n cymdeithas.
“Mae'n iawn na ddylai'r cyn-gwnstabliaid Simon Lewis a James Heley fod yn rhan o Heddlu Gwent.
“Mae eu gweithredoedd wedi dwyn gwarth ar ein sefydliad ac wedi effeithio ar ymddiriedaeth y cyhoedd.
“Fe wnaethom ymateb yn gyflym, y foment y daethom yn ymwybodol o'r negesuon hyn yn 2022. Cafodd y ddau swyddog eu gwahardd o'u gwaith a chafodd y mater ei drosglwyddo i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu."
Bydd y ddau yn cael eu cynnwys ar restr y Coleg Plismona o swyddogion sydd wedi eu gwahardd.