Profiad 'annifyr' gŵr a gwraig o'r Cymoedd o glywed ffrwydradau ar eu gwyliau yn Dubai
Mae gwraig o’r Cymoedd wedi disgrifio’r profiad "annifyr" o glywed ffrwydradau ddiwrnod ar ôl iddi gyrraedd Dubai ar gyfer ei gwyliau yno gyda’i gŵr.
Fe gyrhaeddodd Alison a Stephen Williams o bentref Rhigos, Rhondda Cynon Taf, Dubai yn ystod oriau mân y bore, ddydd Gwener.
O fewn diwrnod o fod yno, roedd lluoedd Iran wedi ymosod ar y ddinas yn yr Emiradau Arabaidd Unedig.
Mae Iran wedi tanio taflegrau at nifer o wledydd yn y rhanbarth sy'n cynnwys canolfannau milwrol Americanaidd mewn ymgais i ddial am ymosodiad America ac Israel ar eu gwlad fore Sadwrn.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Alison y bydd yn rhaid iddynt “aros i weld” a fyddan nhw’n cael hedfan nôl i’r DU ddydd Gwener yn unol â’u cynlluniau gwreiddiol.
Mae miloedd o hediadau wedi cael eu canslo dros y dyddiau diwethaf o ganlyniad i’r gwrthdaro.
Mae meysydd awyr Dubai wedi dweud brynhawn ddydd Llun y bydd rhai teithiau bellach yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yn y dydd.
'Dyw e ddim yn neis'
Dywedodd Alison Williams: “Does dim byd allwn ni ‘neud. Dyw e ddim ‘di bod yn rhy wael, ond na, dyw e ddim yn neis.
“Mae’n ‘neud i ti sylweddoli ar yr hyn mae’n rhaid i bobl ym Mhalestina a Wcráin mynd trwyddo bob dydd, druan â nhw.
“Mae’n gwneud i ti deimlo’n ddigon pryderus jyst yn clywed y ffrwydradau,” esboniodd.
Dywedodd nad yw hi na'i gŵr wedi gweld unrhyw daflegrau na dronau, ond bod ‘na ddigwyddiadau swnllyd i’w clywed yn ystod y dydd.
“Da chi’n gallu clywed yr anti-aircrafts a’r anti-missiles felly maen nhw’n ‘neud lot o sŵn.
“Dan ni heb weld unrhyw ffrwydradau na dim byd fel ‘na, ond chi’n gallu clywed e. Fe allwch chi eistedd ar y traeth a chlywed y jetiau.”
Maen nhw hefyd wedi cael eu deffro gyda’r nos gan rybuddion ar eu ffonau symudol yn eu hannog i aros dan do.
“Wrth gwrs mae’r negeseuon yn Arabeg felly roedd rhaid i ni gyfieithu hwnna… mae’n ddychrynllyd achos dydych chi ddim yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen,” meddai.
Mae Alison a’i gŵr wedi cofrestru eu presenoldeb yn y Dwyrain Canol gyda Llywodraeth y DU. Mae 102,000 o ddinasyddion Prydeinig eraill hefyd wedi nodi hynny.
Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Yvette Cooper wedi dweud bod tua 300,000 o ddinasyddion o’r DU mewn gwledydd yn y Gwlff, sy'n cael eu targedu gan Iran .
Ac mae cynlluniau ar y gweill i geisio cludo mwy na 100,000 o Brydeinwyr o'r Dwyrain Canol.
