‘Camgymeriad mawr’: Rhybuddio yn erbyn cwtogi heddluoedd yng Nghymru a Lloegr

Alun Michael

Mae cyn gomisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, wedi dweud fod ganddo bryderon am gynlluniau posib i gwtogi ac uno lluoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl adroddiad ym mhapur newydd The Times mae’r Ysgrifennydd Cartref Shabana Mahmood yn ystyried cwtogi nifer yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr o 43 i 12.

Mae pedwar heddlu yng Nghymru ar hyn o bryd - Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi dweud y bydd Papur Gwyn ar ddyfodol plismona yn cael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd a fydd yn amlinellu eu cynlluniau.

Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref fis diwethaf y byddai rolau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu diddymu, gyda Mahmood yn dweud nad oedd y polisi "wedi gweithio".

Dywedodd Alun Michael wrth raglen Dros Frecwast Radio Cymru y byddai hi'n “gamgymeriad mawr, yn fy marn i” mynd gam ymhellach ac uno heddluoedd.

Dywedodd nad oedd cam tebyg yn yr Alban lle’r oedd holl heddluoedd y wlad wedi eu cyfuno yn un llu, Police Scotland, yn 2013 wedi gweithio.

“Mae rhywun yn meddwl y bydd lleihau nifer y lluoedd yn safio arian,” meddai.

“Ond fydd ail-drefnu lluoedd yn gostus iawn.”

Awgrymodd y byddai symud tuag at ragor o gyd-weithio rhwng heddluoedd yn fwy buddiol.

“Yng Nghymru ‘da ni wedi dangos ein bod ni’n effeithiol iawn drwy gyd-weithio,” meddai.

“Drwy blismona, drwy gydweithio gyda chynghorau lleol, gyda gwasanaethau eraill, a gyda Llywodraeth Cymru i leihau troseddi.

“Mae’n bwysig iawn i osgoi camgymeriad yr Alban lle maen nhw wedi colli'r cysylltiad rhwng arweiniad yr heddlu a chymunedau lleol.

“Mae wastad yn gamgymeriad pan mae plismona yn colli ei gwreiddiau a’i bersonoliaeth leol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.