Cyhuddo dynion o Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy yn dilyn gwarantau cyffuriau

Llun gan yr heddlu

Mae dynion o Lanfairpwll, Caernarfon a Llandudno ymysg chwech sydd wedi eu cyhuddo wrth i’r heddlu weithredu cyfres o warantau cyffuriau ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr yr wythnos hon.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw wedi arestio 10 o bobl o ganlyniad i “ymchwiliad manwl a hirdymor” a oedd wedi canolbwyntio ar weithgareddau pobl dan amheuaeth yn ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy.

Cynhaliwyd gwarantau ychwanegol ar yr un pryd ym Manceinion a Glannau Mersi fel rhan o'r gwaith plismona ar y cyd, meddai’r heddlu.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi casglu symiau sylweddol o gyffuriau Dosbarth A a B, ynghyd ag arian parod ac asedau gwerth £118,000, yn ystod yr ymgyrch.

O'r rhai a gafodd eu harestio, mae chwech o ddynion wedi eu cyhuddo:

  • Mae Gareth Trevor Rowlands, 52, o Drem Eryri, Llanfairpwll, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth a, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B, a meddu ar eiddo troseddol.
  • Mae Steven Powell, 62, o Cromwell Street, Stockport, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A, a dau gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B.
  • Mae Joseph McCormick, 34, o Johnston Avenue, Bootle, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A, cynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B, a meddu eiddo troseddol.
  • Mae Craig Harris, 51, o Lôn Dryll, Llanfairpwll, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B.
  • Mae Steven Williams, 44, o Ffordd Ysgubor Goch, Caernarfon, wedi cael ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth A.
  • Mae Dennis Edwards, 22, o Marl Crescent, Cyffordd Llandudno, wedi'i gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau a reolir dosbarth B, a meddu eiddo troseddol.

Ymddangosodd y diffynyddion yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Mercher.

Mae pob un wedi cael eu cadw yn y ddalfa, meddai’r heddlu.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Arwel Hughes: "Mae'r gwarantau ar y cyd a weithredwyd heddiw yn dangos ein hymrwymiad i ddatgymalu'r rhwydweithiau troseddol sy'n ecsbloetio pobl bregus ac yn achosi niwed i'n cymunedau.

"Mae'r dull cadarn hwn o fynd i'r afael â materion allweddol a nodwyd gan gymunedau lleol yn barhad o'r gwaith aml-asiantaethol y mae ein heddlu wedi'i wneud gyda phartneriaid yn ystod Ymgyrch Renew Bangor.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth am weithgareddau sy'n gysylltiedig â chyffuriau i gysylltu drwy ffonio 101, y gwasanaeth sgwrsio gwe fyw, neu yn ddienw drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.  

Llun: Heddlu Gogledd Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.