Bwriad i ailagor canolfan hamdden ym Môn 'cyn gynted â phosib' wedi difrod i'r to
Mae Cyngor Môn wedi dweud eu bod yn bwriadu ailagor Canolfan Hamdden Caergybi "cyn gynted â phosib" wedi difrod i'r to.
Cafodd y ganolfan hamdden ei chau ar ôl i'r to gael ei chwythu i ffwrdd yn sgil gwyntoedd cryfion Storm Bram nos Fawrth.
Dywedodd Cyngor Môn fod y storm wedi achosi difrod i’r gorchudd a’r deunydd inswleiddio ar do’r ganolfan hamdden.
Mae dec y to ei hun yn parhau yn iawn, ac mae'r rhan o’r gorchudd a’r deunydd inswleiddio a ddaeth i ffwrdd hefyd wedi’i ddiogelu, medden nhw.
Ond dywedodd y cyngor bod angen gwneud gwaith atgyweirio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth arall yn dod yn rhydd.
"Rydym yn cydweithio’n agos gyda’n cwmni yswiriant a chontractwyr er mwyn sicrhau bod y safle’n cael ei wneud yn ddiogel cyn gynted â phosib," meddai Christian Branch, pennaeth rheoleiddio a datblygiad economaidd y cyngor.
Fe aeth ymlaen i ddweud mai'r bwriad yw ailagor y ganolfan "cyn gynted â phosib".
"Rydym yn ceisio sicrhau cyn lleied o aflonyddwch â phosib i ddefnyddwyr y Ganolfan Hamdden – ond mae’r amserlen ar gyfer y gwaith trwsio yn ddibynnol ar amodau’r tywydd er mwyn i ni allu sicrhau diogelwch pawb," meddai.
"Fodd bynnag, ein bwriad yw ailagor y ganolfan cyn gynted â phosib, unwaith y bydd yn ddiogel i wneud hynny."