Yr Unol Daleithiau yn cipio tancer olew oddi ar arfordir Venezuela
Mae awdurdodau Venezuela wedi cyhuddo Washington o “fôr-ladrad rhyngwladol” wedi i’r Unol Daleithiau gipio tancr olew.
Mae’r Unol Daleithiau wedi honni bod y llong yn cludo olew i Iran sydd dan sancsiynau, a bod yr elw yn cefnogi sefydliadau terfysgol.
"Rydyn ni newydd feddiannu tancer ar arfordir Venezuela - tancer mawr, mawr iawn, yr un mwyaf erioed a gafodd ei feddiannu mewn gwirionedd," meddai Trump wrth ohebwyr yn y Tŷ Gwyn.
Pan ofynnwyd iddo gan ohebwyr beth fyddai'r Unol Daleithiau'n ei wneud â'r olew ar y tancer, dywedodd Trump: "Ei gadw, mae'n debyg ... rwy'n cymryd yn ganiataol y byddwn ni'n cadw'r olew."
Fe wnaeth y Twrnai Cyffredinol Pam Bondi gyhoeddi fideo o’r llong yn cael ei chipio gan ei disgrifio fel "tancer olew crai oedd yn cael ei ddefnyddio i gludo olew o Venezuela ac Iran".
"Am flynyddoedd lawer, mae'r tancer olew wedi cael ei sancsiynu gan yr Unol Daleithiau am ei ran mewn rhwydwaith cludo olew anghyfreithlon sy'n cefnogi sefydliadau terfysgol tramor," meddai.
Mae Venezuela yn gartref i gronfeydd olew hysbys mwyaf y byd.
Dywedodd yr Arlywydd Maduro na fyddai Venezuela byth yn cael ei darostwng yn "drefedigaeth olew" i’r Unol Daleithiau.