Pedwar wedi anafu mewn gwrthdrawiad ar yr A470
Mae pedwar o bobl wedi dioddef anafiadau mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A470 yng nghanolbarth Cymru ddydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys fod dau gar wedi gwrthdaro ar y ffordd rhwng pentrefi Llanbrynmair a Chomins Coch am tua 13:25.
Roedd yr ambiwlans awyr wedi eu galw i'r digwyddiad yn ogystal â chriwiau tân ac achub o Fachynlleth a Llanidloes.
R0edd ffordd yr A470 wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad am beth amser, gyda chyngor wedi ei roi i yrrwyr osgoi'r ardal yn y cyfamser.
