Llywodraeth Cymru i gyflwyno 'mesurau cryfach' i reoli TB
Fe fydd mesurau cryfach i reoli TB yn dod i rym ym mis Ionawr 2026 yn ôl Llywodraeth Cymru.
Fe fydd y mesurau hyn yn gosod cyfyngiadau symud am oes ar wartheg sydd wedi cael canlyniad amhendant i brawf.
Daw hyn wedi cais gan y diwydiant a chyngor annibynnol wedi hynny yn ymwneud â gwartheg sy'n cael Adwaith Amhendant (IRs).
Fe fydd gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant i brawf TB, ac yna sydd wedyn yn cael ail brawf clir o 1 Ionawr 2026 ymlaen yn gorfod aros am eu hoes ar eu daliad gwreiddiol.
Dywed y llywodraeth fod tystiolaeth wyddonol yn dangos fod yr anifeiliaid hyn dair gwaith yn fwy tebygol o gael adwaith i brawf TB na gwartheg sy'n cael prawf clir.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies: "Gofynnodd y diwydiant, ac rydyn ni wedi gwrando. Mae tystiolaeth yn dangos bod y gwartheg IR safonol hyn yn risg uwch gan fod cyfran fwy ohonyn nhw’n cael adwaith i brawf TB wedi hynny.
"Mae perygl felly y gall gwartheg sydd â'r haint heb ei ganfod arnyn nhw gael eu symud a lledaenu TB i fuchesi eraill."
Daw'r newid wedi pryderon yn y diwydiant am ledaenu TB rhwng buchesi.
O dan yr hen drefn, roedd Adweithiau Amhendant safonol yn cael eu symud ar ôl ail brawf negyddol, gan drosglwyddo haint heb ei ganfod.
'Atal lledaeniad y clefyd o fferm i fferm'
Yn Sir Benfro, mae milfeddygon a ffermwyr yn gallu defnyddio data ac addysg i helpu i reoli TB ar eu ffermydd.
Mae Michael Williams o Fferm Fagwrfran yn Sir Benfro yn croesawu'r newid:
"Rydyn ni’n deall y risg y mae adweithyddion amhendant yn eu creu a’r potensial iddynt gael eu heintio a dod yn gronfa ar gyfer yr haint.
"Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i gyfyngu ar symudiadau’r anifeiliaid hyn a gobeithio y bydd yn help i atal lledaeniad y clefyd o fferm i fferm."
Mae menter debyg yn cael ei chynnal hefyd yn yr ardal TB isel y Gogledd.
Dywedodd Paul Williams, o Gae Haidd, Conwy: "Gan adeiladu ar y gwaith rhagorol y mae ein ffrindiau yn Sir Benfro wedi'i wneud, ein nod yma yn y Gogledd yw cadw TB draw o gymaint o'n hardal â phosibl."
'Pryderon dilys'
Er fod y newid yn cael ei groesawu gan Undeb Amaethwyr Cymru, mae pryderon yn parhau.
Wrth ymateb i’r datganiad, dywedodd Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Dai Miles: "Rydym yn cydnabod bod y newid polisi hwn, yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth gan y Grŵp Cynghori Technegol a’r Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg, yn gam ymarferol ac yn un sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gyda’r nod o helpu i amddiffyn buchesi rhag y perygl o gyflwyno anifeiliaid heintiedig yn anfwriadol.
"Serch hynny, mae’n codi pryderon dilys ynghylch lefel yr hyder y gellir ei roi mewn canlyniadau profion TB negyddol. Mae hefyd yn ddealladwy y gall hyn achosi rhwystredigaeth ymhlith rhai yn y gymuned amaethyddol, gan deimlo fel haen arall o gyfyngiadau ar symudiadau gwartheg sydd eisoes dan reoliadau tynn."
