Y Swyddfa Gartref wedi 'gwastraffu biliynau' ar westai lloches
Mae'r Swyddfa Gartref wedi "gwastraffu biliynau o bunnoedd" o arian trethdalwyr ar westai lloches, meddai pwyllgor o ASau.
Dywedodd y Pwyllgor Materion Cartref fod "contractau diffygiol" a "darpariaeth anghymwys" wedi gadael yr adran yn methu ymdopi â chynnydd mewn galw a'i bod yn dibynnu ar westai fel atebion rheolaidd yn hytrach na mesurau dros dro.
Yn ôl yr ASau mae costau disgwyliedig ar gyfer contractau gwestai lloches wedi treblu i fwy na £15 biliwn, ac nid oedd digon wedi'i wneud i hawlio elw gormodol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref fod y llywodraeth yn "gandryll ynglŷn â nifer y mewnfudwyr anghyfreithlon yn y wlad hon ac mewn gwestai", gan ailadrodd ei haddewid i roi'r gorau i ddefnyddio gwestai lloches erbyn 2029.
Mae tua 32,000 o geiswyr lloches yn byw mewn 210 o westai ar hyn o bryd tra bod eu ceisiadau'n cael eu prosesu, gan gostio £5.5 miliwn y dydd i'r llywodraeth.
Fe wnaeth yr adroddiad, a gafodd ei gyhoeddi fore Llun, dynnu sylw at sut y gwnaeth yr adran esgeuluso ei rheolaeth ddyddiol o'r contractau.
Nid oedd yr adran chwaith wedi rhoi cosbau ariannol digonol i ddarparwyr sy'n perfformio'n wael, meddai'r adroddiad.
Ar ben hynny, nid yw'r adran wedi hawlio elw dros ben gan ddarparwyr sy'n ddyledus i'r Swyddfa Gartref yn ôl eto.
'Anhrefnus a drud'
Dywedodd yr adroddiad: "Mae'r Swyddfa Gartref wedi bod yn gweithredu mewn amgylchedd hynod heriol, ond mae ei hymateb anhrefnus wedi dangos nad yw wedi bod yn barod i ymdopi â'r her.
"Mae cymal torri 2026 a diwedd y contractau yn 2029 yn cynrychioli cyfleoedd i symud ymlaen o'r system aflwyddiannus, anhrefnus a drud bresennol a symud i fodel sy'n fwy effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian."
Mae'r pwyllgor wedi mynnu strategaeth glir i roi diwedd ar ddefnyddio gwestai lloches.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo cau pob gwesty lloches erbyn 2029, ond mae'r pwyllgor wedi rhybuddio, heb gynllun ar gyfer llety amgen, y bydd gweinidogion mewn perygl o "dangyflenwi ac o ganlyniad tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd ymhellach".
Mae nifer o brotestiadau a gwrth-brotestiadau ynghylch gwestai lloches wedi cael eu cynnal ar draws y DU eleni, yn enwedig yn Essex ar ôl i geisiwr lloches a oedd yn aros yng Ngwesty'r Bell yn Epping gael ei gyhuddo o ddau ymosodiad rhywiol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae'r llywodraeth yn gandryll ynglŷn â nifer y mudwyr anghyfreithlon yn y wlad hon ac mewn gwestai. Dyna pam y byddwn yn cau pob un gwesty lloches, gan arbed biliynau o bunnoedd i'r trethdalwr.
"Rydym eisoes wedi cymryd camau - cau gwestai, torri costau lloches bron i £1bn ac archwilio'r defnydd o ganolfannau milwrol ac eiddo gwag."

