Olly Cracknell yng ngharfan rygbi Cymru ar ôl anaf i Taulupe Faletau
Fe fydd yr wythwyr Taulupe Faletau yn colli gemau Cymru yng nghyfres yr hydref ar ôl dioddef anaf i'w ben-glin.
Mae hyfforddwr Cymru wedi galw wythwr Caerlŷr sydd eto i ennill cap dros Gymru, Olly Cracknell, i gymryd ei le.
Fe wnaeth Faletau, 34 oed, ddioddef yr anaf wedi pedwar munud yn unig yng ngêm Caerdydd yn erbyn Caeredin nos Sadwrn.
Fe fydd Cracknell, 31 oed, yn gobeithio ennill ei gap cyntaf wrth i Gymru herio'r Ariannin, Japan, Seland Newydd a De Affrica fis Tachwedd.
Dywedodd y prif hyfforddwr Steve Tandy: "Mae'n amlwg yn siomedig iawn colli Toby oherwydd anaf gan ei fod yn chwaraewr o safon uchel.
"Ond mae Olly wedi bod yn chwarae'n dda iawn i Gaerlŷr ac rydym yn gyffrous i'w ychwanegu at y garfan."
Dyma'r tro cyntaf i Cracknell gael ei alw i garfan Cymru ers i Warren Gatland ei gynnwys mewn carfan yn 2017.
Mae'r chwaraewr rheng–ôl wedi ennill chwe chap dros Gymru Dan 20 a chynrychioli’r Gweilch, Gwyddelod Llundain a Chaerlŷr yn ystod ei yrfa.
Llun: Asiantaeth Huw Evans
