Newyddion S4C

Dadorchuddio cerflun o brifathrawes ddu gyntaf Cymru yng Nghaerdydd

29/09/2021
betty campbell

Mae cerflun o brifathrawes ddu gyntaf Cymru wedi cael ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Ar ôl pleidlais yn 2019, Betty Campbell yw'r fenyw gyntaf i ymddangos ar ffurf cerflun yng Nghymru.

Mae sefydliad Monumental Welsh Women, sydd yn gyfrifol am sefydlu’r cerflun, wedi gosod her o greu pum cerflun o fenyw mewn pum mlynedd yng Nghymru.

Dywedodd y sefydliad mai ei nod yw newid y ffordd y mae merched yn gweld eu hunain: “Mae ein nod wedi ei ysbrydoli gan y ffaith nad oes un cerflun cyhoeddus yng Nghymru sy’n dathlu llwyddiannau menywod Cymreig. Dyw merched Cymreig ddim yn gallu gweld beth allan nhw fod. Ein nod yw newid hyn.”

Ganwyd Betty Campbell yn ardal Tre-biwt, Caerdydd yn 1934 i dad o Jamaica a mam o Farbados.

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes cyn dod yn bennaeth du cyntaf Cymru yn Ysgol Mount Stuart, Tre-biwt yn yr 1970au.

Dywedodd sefydliad Monumental Welsh Women: “Mae symudiad Black Lives Matter wedi arddangos y prinder amrywiaeth sydd gennym yn ein cerfluniau cyhoeddus.

Yn 1998, cafodd Betty Campbell wahoddiad i gwrdd â Nelson Mandela yn ystod ei unig ymweliad ef â Chymru, fel aelod o’r Comisiwn dros Gydraddoldeb Hil.

Cyflwynwyd iddi wobr cyfraniad oes gan Kebba Manneh, cadeirydd Grŵp Aelodau Du Unison Cymru Wales yn 2016, cyn iddi farw flwyddyn yn ddiweddarach.

Image
Betty Campbell
Cyn y dadorchuddio, dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt fod yn "arloeswraig mewn addysg a bywyd cymdeithasol". 

Ychwanegodd Monumental Welsh Women: “Roeddem wrth ein bodd pan ddangosodd y bleidlais gyhoeddus mai’r fenyw Gymreig gyntaf i gael ei choffáu – a’i dathlu – gyda cherflun, oedd Betty Campbell, prifathrawes ddu cyntaf Cymru ac ymgyrchydd cymunedol.

“Nid dim ond y fenyw Gymreig gyntaf i gael ei dathlu, ond y fenyw ddu Gymreig hefyd.”

Image
Cerflun Betty Campbell
Esboniodd y cerflunydd Eve Shepherd ei bod wedi creu'r cerflun fel bod modd eistedd arno, "er mwyn teimlo fel eich bod yn tyfu o Fae Teigr". 

Fe gafodd y cerflun 4m o daldra ei ddadorchuddio fore dydd Mercher 29 Medi ger Sgwâr Canolog, Caerdydd, gyda chôr Ysgol Mount Stuart, lle’r oedd Betty Campbell yn bennaeth, yn canu yn y digwyddiad.

Llun: Monumental Welsh Women

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.