Newyddion S4C

‘Dim pwynt cario mlaen os dwi’n gwneud dim elw’

29/09/2021

‘Dim pwynt cario mlaen os dwi’n gwneud dim elw’

Mae seiri coed a gofaint wedi rhybuddio fod y prinder mewn deunyddiau adeiladu yn cael effaith ddinistriol ar ei busnesau.

Yn ôl perchennog cwmni gwaith pren o Feirionnydd sydd wedi siarad gyda Newyddion s4c, mae’n amhosib iddynt gystadlu gyda chwmnïau mawr sy’n gallu storio deunyddiau o flaen llaw.

Mae’r diwydiant adeiladu wedi ei daro gan brinder mewn deunyddiau ers dechrau’r flwyddyn, gyda rhai o’r prisiau uchaf erioed yn cael eu cofnodi eleni.

Cynnydd “eithriadol” mewn galw a phroblemau logistaidd oherwydd y pandemig a Brexit sydd wrth wraidd y problemau yn benaf, yn ôl y diwydiant.

Mae’r Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu eisoes wedi rhybuddio bod sment, rhai darnau trydanol, pren, dur a phaent i gyd yn brin.

Pris coed 'wedi dyblu'

Fe adawodd Nicola Griffiths ei swydd llawn amser ym Mai 2020 er mwyn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar greu gwaith pren i’w busnes, Coed y Ddraig.

Yn ystod y flwyddyn maen nhw wedi bod yn gwneud cynnyrch arbennig, mae prisiau derw a choed eraill wedi dyblu, yn ôl Nicola.  

Dywedodd wrth Newyddion S4C: “Does na ddim diffyg archebion o gwbl, mae ganddon ni restr aros, ond mae cost deunydd crai, sef pren i ni, di codi mor sylweddol ma di cael gwared o unrhyw elw oeddan ni’n neud o bob eitem.

“Mi ydan ni wedi codi prisiau chydig bach, a mae rhai pobol yn meddwl bo ni’n ddrud yn barod, ond dwim yn meddwl bo nhw’n deall y cyd-destun pam bo ni wedi gorfod codi prisiau.”

Ychwanegodd ei bod hi’n anodd iddynt gystadlu gyda busnesau mawr sy’n gallu prynu cyflenwad mawr o bren a’i storio am gyfnod hir.

“Dydan ni ddim fel busnes bach ddim yn gallu gwneud hynny, gyna ni un, ddim y lle i stock pile-io, ac yn ail, sgyno ni ddim y pres i allu prynu lot o’r pren. Da ni’n prynu’r pren i gyd yn lleol ac yn unol â’n harchebion.”

‘Bydd rhaid camu nôl o’r busnes’

Mae’r cynnydd mewn prisiau yn golygu y gallai fod newid ar y gweill i gwmni Coed y Ddraig.

“Yn y byr dymor da ni wedi stopio cymryd archebion am yr eitemau mawr fel y dodrefn ond parhau gyda’r eitemau bach.

“Yn yr hirdymor fydd yn rhaid camu nôl o’r busnes – a fydda i yn goro cymryd cam nôl o’r busnes ac yn anffodus mynd i weithio llawn amser.

“Natho ni gychwyn y busnes yma i ddechra mwy o amser adra, ond does na ddim pwynt cario mlaen sa oes na ddim elw.”

Image
Gerallt Evans

Mae Gerallt Evans yn gweithio fel gôf yn Llanrwst ac yn wahanol i Nicola, mae wedi gallu cynyddu faint mae’n ei godi ar gwsmeriaid i gyfateb â’r cynnydd mewn prisiau.

Dywedodd Mr Evans wrth Newyddion S4C: “Mae prisiau wedi dwblu ers yr adeg yma llynedd, a dydy o erioed wedi bod ar yr raddfa yma yn yr 20 mlynedd diwethaf.

“Ond dwi wedi gallu pasio fo mlaen i’r person; mae cwsmeriaid yn deall.”

Ar hyn o bryd, mae’r busnes yn ymdopi ond mae’r newidiadau i brisiau yn effeithio ar llif arian ei gwmni.

“Mae cash flow y cwmni yn sicr wedi’i effeithio, a gyda phrisiau yn codi, ti isho mwy o gredit gyda cyflenwyr. Ella na £2,000 neu £3,000 o gredit sydd gen ti, ond dydy hynny ddim yn mynd â ti yn bell iawn heddiw,” meddai.

‘Rhai busnesau yn dioddef’

Yn ôl Caryl Owen, sylfaenydd safle sy’n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i fusnesau Cymreig, Gofod.Space, mae yna rai busnesau bach sy’n “dioddef”.

“Yn gyffredinol, y cwynion ydy fod prisiau yn mynd i fyny hefo rhai pethau.

“Mae o’n broblem ar draws y bwrdd gyda lot o bethau yn cael eu taro. Mae costau cludiant uchel yn rywbeth da ni wedi bod yn glywed gan fusnesau bach hefyd.

“Mae busnesau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ac ar ddiwedd y dydd maen nhw’n gorfod gwneud arian, ond dydyn nhw ddim isio prisio yn rhy uchel fel bod pobl ddim yn prynu eu nwyddau nhw.

“Maen nhw’n gorfod sicrhau’r balans rhwng faint o’r gost maen nhw’n lyncu eu hunain, neu faint wyt ti’n rhoi fyny – ac mae hynny yn benderfyniad personol.”

Yn gynharach yr wythnos hon, fe ddywedodd y Cyngor Arweinyddiaeth Adeiladu fod y prinder deunyddiau wedi dechrau gostegu dros y mis diwethaf.

Mewn datganiad ar y cyd gyda sawl corff arall o’r diwydiant, dywedodd y Cyngor eu bod mewn “sefyllfa well ar hyn o bryd nag oedden ni tri, bedwar mis yn ôl.”

Serch hynny, dywedodd llefarydd fod prinder pren yn parhau’n un o’r prif broblemau, ac y gallai’r sefyllfa barhau hyd at 2022.

Llun: Coed y Ddraig

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.