Cip olwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma olwg ar brif benawdau'r bore ar ein gwasanaeth ar fore Mercher, 22 Medi.
Claf 'wedi dychryn’ gweld pobl yn camdrin staff y GIG mewn ysbyty
Mae menyw oedd wedi derbyn triniaeth mewn Uned Gofal Brys mewn ysbyty yn y gogledd yn dweud ei bod wedi “dychryn” ar ôl gweld aelodau o staff y GIG yn cael eu cam-drin yn eiriol ac yn gorfforol gan gleifion. Bu’n rhaid i Heledd Roberts, sy’n actores ar gyfres Rownd a Rownd ar S4C, dderbyn gofal brys yn Ysbyty Gwynedd ar ddiwedd mis Awst.
Y DU yn gobeithio ymuno â chytundeb masnach yr UDA-Mecsico-Canada - Sky News
Mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ymuno â chytundeb masnach rydd sy'n bodoli rhwng yr UDA, Mecsico a Chanada. Daw hyn wedi i'r Prif Weinidog, Boris Johnson, awgrymu nad oedd cytundeb uniongyrchol rhwng y DU a'r UDA yn bosibilrwydd ar hyn o bryd.
Galw ar y llywodraeth i ddatgan 'argyfwng' yn y Gwasanaeth Ambiwlans
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan bod y Gwasanaeth Ambiwlans mewn “argyfwng”. Mae’r blaid eisiau gweld y llywodraeth yn cyflwyno “cynlluniau clir” i ddatrys yr argyfwng presennol. Dywed y llywodraeth eu bod wedi buddsoddi arian er mwyn "gwella'r modd y caiff gwasanaethau gofal brys ac mewn argyfwng eu darparu".
Llosgfynydd La Palma: Miloedd wedi'u cludo o'u cartrefi - The Independent
Mae afonydd o lafa yn parhau i ffurfio llwybrau dinistriol ar ynys La Palma wrth iddyn nhw symud o gyfeiriad llosgfynydd ar yr ynys tuag at y môr. Ffrwydrodd y Cumbre Vieja brynhawn dydd Sul wedi i bobl leol brofi mwy na 20,000 o gryndodau ers 11 Medi. Mae tua 6,000 o bobl ar La Palma, sydd â phoblogaeth o ryw 85,000 o bobl, wedi eu cludo o'u cartrefi hyd yma gyda 183 o dai wedi eu difrodi.
Agor arddangosfa i ddathlu cenhedlaeth Windrush yn y Senedd
Bydd arddangosfa newydd i ddathlu cenhedlaeth Windrush Cymru yn agor yn y Senedd ddydd Mercher. Gobaith yr arddangosfa newydd yw dangos sut mae Hynafiaid Windrush Cymru wedi dylanwadu ar fywyd Cymru a'i gyfoethogi. Fel rhan o’r arddangosfa, mae 10 o bobl, sef Hynafiaid Windrush Cymru, yn rhannu eu straeon.
Dilynwch y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.