Y DU yn gobeithio ymuno â chytundeb masnach yr UDA-Mecsico-Canada
Mae gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu ymuno â chytundeb masnach rydd sy'n bodoli rhwng yr UDA, Mecsico a Chanada.
Daw hyn wedi i'r Prif Weinidog, Boris Johnson, awgrymu nad oedd cytundeb uniongyrchol rhwng y DU a'r UDA yn bosibilrwydd ar hyn o bryd.
Ar ei ymweliad i Efrog Newydd a Washington DC yr wythnos hon, mae'r prif weinidog wedi methu ag ymrwymo i sicrhau cytundeb masnach rydd rhwng Prydain ac America erbyn yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2024.
Dywedodd fod gan Arlywydd yr UDA, Joe Biden, "lawer o bysgod i'w ffrïo" wrth iddo ddistewi disgwyliadau am gytundeb rhwng y ddwy wlad.
Mae ffynhonnell flaenllaw o fewn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud wrth Sky News y gallai cyfres o gytundebau llai rhwng y DU a'r UDA ar faterion ar wahân fod yn bosibilrwydd.
Darllenwch y stori'n llawn yma.