Byddai Reform UK yn 'gosod Cymru yn ôl degawdau' medd Rhun ap Iorwerth

Rhun ap Iorwerth

Mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, wedi dweud y byddai llywodraeth Reform UK yng Nghymru yn gosod y wlad yn nôl “degawdau.”

Roedd yn annerch cynhadledd wanwyn ei blaid yng Nghasnewydd ddydd Gwener - gan ddadlau mai brwydr rhwng Reform UK a'i blaid ei hun fydd etholiad y Senedd ym mis Mai.

Fe wnaeth Mr ap Iorwerth ddisgrifio Etholiadau’r Senedd, sydd 10 wythnos i ffwrdd, fel dewis rhwng "gweledigaeth obeithiol Plaid Cymru" a’r "anhrefn" y byddai cyn-Dorïaid yn Reform UK yn ei greu.

Roedd yn hefyd wedi cyhuddo Reform UK o fod â “dim atebolrwydd, dim difrifoldeb, dim polisïau, a dim cywilydd wrth ddefnyddio ein cenedl fel man cychwyn etholiadol yn unig, dim byd arall.”

Fe rybuddiodd aelodau mai cynghorau Lloegr dan reolaeth Reform UK yw'r "caneris yn y pwll glo" o ran yr hyn sydd gan y blaid i'w gynnig i Gymru:

“Gyfeillion, i Lafur, mae'r blaid drosodd - ac felly bydd yr etholiad ym mis Mai yn ddewis rhwng dau ddyfodol cyferbyniol.

“Goddefgarwch neu raniad. Cynnydd neu bydredd. Herfeiddiad neu barch. Diwylliant neu anwybodaeth. Dynoliaeth neu ddifaterwch.

“Ymgeiswyr di-wyneb ac arweinwyr cynghorau di-hid o Northumberland i Gaint yw'r caneris yn y pwll glo o ran yr hyn sydd gan Farage i'w gynnig i'n senedd a'n pobl."

Mae disgwyl i'r blaid gyhoeddi manylion am ei 100 diwrnod cyntaf mewn grym petai hi'n dod yn fuddugol yn yr etholiad.

Mae'r arolygon barn yn awgrymu y bydd yn ras agos rhwng Plaid Cymru yn y blychau pleidleisio ar 7 Mai.

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dweud y byddai yn galw am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru "cyn gynted ag y bydd pobl Cymru yn barod" pe bai'n dod yn Brif Weinidog Cymru yn dilyn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Dywedodd Dan Thomas, arweinydd Reform Cymru: “Fis Mai, bydd gan Gymru dewis clir yn yr etholiad.

“Ar yr un llaw mae Plaid, sydd wedi cynnal Llafur am genhedlaeth, gan gefnogi polisïau fel y Genedl Noddfa a therfynau cyflymder 20mya ar draws y wlad gyfan.

“Ar y llaw arall mae Reform, sef yr unig blaid sy’n gallu sicrhau’r newid gwirioneddol y mae Cymru’n ei haeddu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Lafur Cymru: "Unwaith eto, nid oes unrhyw beth newydd gan Blaid Cymru - rhestr hirfaith o ddymuniadau heb unrhyw gostiadau.

Nawn nhw ddim ateb y cwestiynau caled. Sut y bydden nhw'n talu am yr holl bethau?

"Mae Rhun yn siarad am "effeithlonrwydd", ond nid yw'n dweud os y byddai'n gwneud toriadau i wasanaethau neu godi trethi?"

Llun: Ben Birchall/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.