Newyddion S4C

Agor arddangosfa i ddathlu cenhedlaeth Windrush yn y Senedd

22/09/2021
S4C

Bydd arddangosfa newydd i ddathlu cenhedlaeth Windrush Cymru yn agor yn y Senedd ddydd Mercher.

Gobaith yr arddangosfa newydd yw dangos sut mae Hynafiaid Windrush Cymru wedi dylanwadu ar fywyd Cymru a'i gyfoethogi.

Fel rhan o’r arddangosfa, mae 10 o bobl, sef Hynafiaid Windrush Cymru, yn rhoi cipolwg ar eu straeon, yn eu geiriau eu hunain, am sut y daethant, neu eu teuluoedd, ar daith i Gymru yn ystod cyfnod o fewnfudo rhwng 1948 a 1988.

Ar ôl cael eu gwahodd gan lywodraethau olynol i helpu i leddfu’r prinder gweithwyr yn y DU, penderfynodd llawer o bobl o wledydd Caribïaidd y Gymanwlad ymfudo. Cawsant eu galw yn genhedlaeth Windrush, sy’n deillio o 'HMT Empire Windrush', sef y llong a ddaeth ag un o'r grwpiau cyntaf i'r DU yn 1948.

Bydd ‘Windrush Cymru: dathlu bywydau a siwrneiau cenhedlaeth’ ar agor i’r cyhoedd tan ganol mis Rhagfyr, gyda rhai o’r genhedlaeth honno yn ymweld â’r Senedd ar gyfer yr agoriad swyddogol yn ddiweddarach ddydd Mercher.

Dywedodd Roma Taylor, Sylfaenydd a Chadeirydd Hynafiaid Windrush Cymru: "Rydw i mor falch o'r arddangosfa hon, mae'n foment werthfawr i bob un ohonom. Dyma ein straeon ni ac os na fyddwn ni’n eu rhannu nhw, yna fydd neb yn gwybod."

‘Ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl’

Cafodd May Laida ei geni ym Mauritius yn 1946, a symudodd i Gasnewydd yn 1965 i ymuno â'i dyweddi a oedd wedi ateb galwad y llywodraeth am weithwyr rai blynyddoedd ynghynt.

Yn ôl Ms Laida roedd dod i arfer gyda thywydd a thymheredd Cymru yn heriol:

"Doeddwn i ddim yn gwybod ei bod hi’n oer. Dim ond fy ngwisg gotwm oedd gen i wrth deithio yma, a chotwm oedd gweddill y dillad hefyd, felly doedd gen i ddim byd cynnes. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl.”

Mae'r straeon yn mapio'r llwybrau a ddaeth â phobl o wledydd Caribïaidd y Gymanwlad i fyw yng Nghymru ac yn adlewyrchu sut brofiadau a gawsant ar gyrraedd.

Cyfraniad ‘amhrisiadwy’ i Gymru

Dywedodd Sioned Hughes, o Amgueddfa Cymru: "Mae cenhedlaeth Windrush a'u teuluoedd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i Gymru, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Race Council Cymru a'r Senedd i adrodd y straeon pwysig hyn.

“Rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr yn achub ar y cyfle i ymweld â'r arddangosfa bwerus hon yn y Senedd i ddarganfod sut y mae Hynafiaid Windrush Cymru wedi dylanwadu ar fywyd Cymru a'i gyfoethogi.

“Bydd yr hanesion llafar a gofnodwyd gan brosiect Windrush Cymru yn dod yn rhan o'r archif yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Hynafiaid Windrush am rannu eu profiadau â ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Llun: May Laida/ gan Antonia Osuji

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.