Newyddion S4C

Llosgfynydd La Palma: Miloedd wedi'u cludo o'u cartrefi

The Independent 22/09/2021

Llosgfynydd La Palma: Miloedd wedi'u cludo o'u cartrefi

Mae afonydd o lafa yn parhau i ffurfio llwybrau dinistriol ar ynys La Palma wrth iddyn nhw symud o gyfeiriad llosgfynydd ar yr ynys tuag at y môr.

Ffrwydrodd y Cumbre Vieja brynhawn dydd Sul wedi i bobl leol brofi mwy na 20,000 o gryndodau ers 11 Medi.

Mae tua 6,000 o bobl ar La Palma, sydd â phoblogaeth o ryw 85,000 o bobl, wedi eu cludo o'u cartrefi hyd yma gyda 183 o dai wedi eu difrodi.

Mae'r ffrwydrad, ar un o'r Ynysoedd Dedwydd ger arfordir Morocco, yn dynodi'r tro cyntaf ers 50 mlynedd i lafa lifo o'r Cumbre Vieja.

Mae ffynhonnau o lafa wedi cyrraedd taldra o hyd at 5,000 o droedfeddi - bron i ddwywaith maint y tŵr uchaf yn y byd, yn ôl The National Geographic.

Yn ôl The Independent, fe barhaodd y ffrwydrad llosgfynydd diwethaf ar yr Ynysoedd Dedwydd am bum mis yn 2011.

Darllenwch fwy ar y stori yma.

Llun: INVOLCAN

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.