Newyddion S4C

Claf 'wedi dychryn’ gweld pobl yn camdrin staff y GIG mewn ysbyty

22/09/2021

Claf 'wedi dychryn’ gweld pobl yn camdrin staff y GIG mewn ysbyty

Mae menyw oedd wedi derbyn triniaeth mewn Uned Gofal Brys mewn ysbyty yn y gogledd yn dweud ei bod wedi “dychryn” ar ôl gweld aelodau o staff y GIG yn cael eu cam-drin yn eiriol ac yn gorfforol gan gleifion.

Bu’n rhaid i Heledd Roberts, sy’n actores ar gyfres Rownd a Rownd ar S4C, dderbyn gofal brys yn Ysbyty Gwynedd ar ddiwedd mis Awst.

Roedd 70 o gleifion yn aros o’i blaen pan gyrhaeddodd yr ysbyty, yn ôl Ms Roberts, gydag aelodau o staff yn dioddef ymosodiadau corfforol a geiriol gan rai aelodau o'r cyhoedd.

Mae un adroddiad diweddar yn dweud bod 10,000 o achosion o drais tuag at aelodau o staff gofal iechyd yng Nghymru wedi eu cofnodi ers dechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, does “dim esgus” i staff gael eu cam-drin gan gleifion.

Image
Heledd Roberts
Derbyniodd Heledd Roberts, sy’n actores ar gyfres Rownd a Rownd ar S4C, ofal brys yn Ysbyty Gwynedd ddiwedd mis Awst.

Dywedodd Ms Roberts wrth Newyddion S4C: “Fi’n deall, pan ych chi’n mynd mewn bo chi’n mynd i fod yn aros amser hir cyn cael eich gweld.

“Ond y noson yna nes i wir gael fy synnu gyda’r ffordd oedd rai aelodau o’r cyhoedd yn gallu trin staff y Gwasanaeth Iechyd.

 “Mae’r pethau nes i weld y noson honno wedi wir agor fy llygaid.

“Oedd aelodau o’r cyhoedd yn ymosod yn eiriol ar staff, oedd rhai wedi ymosod yn gorfforol ar y staff, a mae jysd wir wedi fy nychryn mewn ffordd, achos fi jysd yn teimlo dyn nhw ddim yn haeddu cael eu trin y ffordd yma, maen nhw yna i helpu ni, nid er mwyn derbyn hyn gan aelodau’r cyhoedd.”

Staff yn ‘ddigalon’

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn cydnabod bod camdriniaeth yn erbyn gweithwyr y GIG wedi gwaethygu ac yn galw am newidiadau.

Dywedodd Nicola Davis-Job o’r Coleg: "Mae pethau wedi mynd yn waeth - mae pobl wedi cael digon a ni'n gwybod bod ein haelodau ni'n dweud eu bod nhw wedi blino.

"Maen nhw wedi bod yn gweithio bob dydd. Maen nhw heb weld eu plant, eu rhieni, a ni'n gwybod eu bod nhw'n ddigalon."

Image
Uned Achosion Brys
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod agwedd o'r fath yn annerbyniol.

Wrth ymateb i’r digwyddiad, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth Newyddion S4C fod agwedd o’r fath yn annerbyniol.

Dywedodd Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae ein staff yn gweithio’n hynod o galed i ofalu am bobl sy’n derbyn triniaeth yn ein hysbytai. Ni ddylent fyth orfod dioddef ymddygiad corfforol neu dreisgar wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau ac mae hyn yn rhywbeth nad ydym yn ei dderbyn.

“Rydyn ni’n deall bod pobl sydd angen ein gofal yn aml mewn poen ac yn mynd trwy gyfnod pryderus a llawn straen, ac oherwydd hynny, gall tensiynau redeg yn uchel weithiau. Fodd bynnag, nid oes unrhyw esgus dros gam-drin geiriol neu gorfforol yn erbyn ein staff sy'n gweithio'n galed. "

‘Anodd’ i’w weld 

Y peth anoddaf i Ms Roberts yn dilyn ei phrofiad yw gwybod bod ei chwaer yn gweithio fel nyrs.

Dywed ei bod hi’n bryderus am y ffordd y gallai gael ei thrin yn y gweithle.

Ychwanegodd: “Beth sy’n brifo fi fwyaf am y ffordd mae’r staff yn cael eu trin yw mae’r ffaith bo fy chwaer sydd newydd gymhwyso fel nyrs efallai bod hi yn un o’r bobl yma sy’n cael ei trin yn wael gan aelodau o’r cyhoedd.

“Mae gweld y holl ymdrech a oriau mae Manon wedi gorfod rhoi mewn i gallu neud y cwrs yma yn anodd, mae’n anodd gweld ac anodd derbyn bod pobl wedi trin hi’n wael hefyd. Mae e’n neud fi mor drist taw dyma sut mae pobl yn gallu trin pobl sydd actually yn trio helpu ni.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.