Newyddion S4C

Cip olwg ar benawdau'r bore

17/09/2021
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma olwg ar rai o brif straeon y gwasanaeth ar fore Gwener, 17 Medi, o Gymru a thu hwnt.

Disgwyl cyhoeddiad am basbortau brechu yng Nghymru

Mae disgwyl cyhoeddiad ar y defnydd o basbortau brechu yng Nghymru fel rhan o adolygiad diweddaraf y llywodraeth o’r cyfyngiadau coronafeirws. Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fydd yn arwain y gynhadledd yn ddiweddarach ddydd Gwener. Mae’r defnydd o basbortau brechu wedi bod yn bwnc llosg ers tro, gyda nifer o’r gwrthbleidiau yn eu gwrthwynebu. 

Cyhuddo dau o lofruddio'r newyddiadurwraig Lyra McKee yng Ngogledd Iwerddon

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio'r newyddiadurwraig Lyra McKee a gafodd ei saethu'n farw yn Derry yn mis Ebrill, 2019. Dywed The Irish Times, fod y ddau, sydd yn 21 a 33 oed, hefyd wedi cael eu cyhuddo o fod ag arf a bwledi gyda'r bwriad o beryglu bywyd, achosi terfysg, bod â bomiau petrol yn eu meddiant, eu taflu a'u tanio'n fwriadol. Mae trydydd dyn 20 oed hefyd wedi ei gyhuddo o achosi terfysg, bod â bomiau petrol yn ei feddiant a'u taflu. 

‘Rhoi llais’ i bobl ag anableddau mewn ffilm am brofiadau’r cyfnodau clo

Mae menyw o Gaerfyrddin yn gobeithio y bydd ffilm newydd am brofiadau pobl ag anableddau yn atal pobl rhag “cael eu rhoi yn yr un bocs”. Mae Datgloi Bywydau gan elusen Anabledd Cymru yn cael ei adrodd gan amrywiaeth o bobl ar draws Cymru sydd wedi bod yn dogfennu eu bywydau yn ystod y cyfnod clo.

Angen 'blaenoriaethu trais yn erbyn menywod' yn yr un modd â therfysgaeth

Mae adroddiad newydd wedi dod i'r casgliad y dylai trais yn erbyn menywod gael ei flaenoriaethu yn yr un modd â therfysgaeth. Cafodd yr adroddiad gan yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard. 

Cynllun i blannu miloedd o goed bob blwyddyn

Mae NFU Cymru wedi lansio cynllun, Tyfu gyda’n Gilydd, gyda’r gobaith i fynd i’r afael â thaclo newid hinsawdd. Nod y cynllun yw plannu dros 80 miliwn o goed dros y 10 mlynedd nesaf, sy’n gyfystyr â phlannu coed ar ardal maint bron i 4,000 o gaeau rygbi bob blwyddyn. Mae NFU Cymru yn annog ei aelodau i blannu cymaint o goed ag sy’n bosib fel rhan o’r cynllun gwirfoddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.