Cyhuddo dau o lofruddio'r newyddiadurwraig Lyra McKee yng Ngogledd Iwerddon

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddio'r newyddiadurwraig Lyra McKee a gafodd ei saethu'n farw yn Derry yn mis Ebrill, 2019.
Cafodd Ms McKee ei saethu wrth ddilyn terfysg oedd yn digwydd yn ardal Creggan yn y dref.
Dywed The Irish Times, fod y ddau, sydd yn 21 a 33 oed, hefyd wedi cael eu cyhuddo o fod ag arf a bwledi gyda'r bwriad o beryglu bywyd, achosi terfysg, bod â bomiau petrol yn eu meddiant, eu taflu a'u tanio'n fwriadol.
Mae trydydd dyn 20 oed hefyd wedi ei gyhuddo o achosi terfysg, bod â bomiau petrol yn ei feddiant a'u taflu.
Fe fydd y tri yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Londonderry fore dydd Gwener.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Gŵyl Newyddiaduraeth Ryngwladol