Newyddion S4C

‘Rhoi llais’ i bobl ag anableddau mewn ffilm am brofiadau’r cyfnodau clo

17/09/2021

‘Rhoi llais’ i bobl ag anableddau mewn ffilm am brofiadau’r cyfnodau clo

Mae menyw o Gaerfyrddin yn gobeithio y bydd ffilm newydd am brofiadau pobl ag anableddau yn atal pobl rhag “cael eu rhoi yn yr un bocs”.

Mae Datgloi Bywydau gan elusen Anabledd Cymru yn cael ei adrodd gan amrywiaeth o bobl ar draws Cymru sydd wedi bod yn dogfennu eu bywydau yn ystod y cyfnod clo.

Un o gyfanwyr y ffilm yw Tina Evans, 36, sy’n byw gyda chyflwr Friedreich Ataxia.

Mae’r cyflwr yn effeithio ar symudedd a chydbwysedd Tina, sy’n golygu ei bod yn defnyddio cadair olwyn trwy gydol yr amser.

'Cael llais'

Dywedodd Tina: “Pwysigrwydd y ffilm hyn yw bod pobl anabl yn cael llais hefyd fel bod pobl yn gweld beth on i’n mynd trwyddo hefyd”

“Pob wythos on i’n cael tasg gwahanol a rhywbeth o’dd rhaid i ni ffilmio. Nes i joio fe, wedes i ‘ie’ straight away.

Ychwanegodd Tina bod angen “codi ymwybyddiaeth” am wahanol fathau o anableddau hefyd:

“Bydde pobl fel arfer yn rhoi ni i gyd yn yr un bocs ond chi’n gwbod, ni gyd yn wahanol hefyd.

“Bydd e’n ddiddorol i weld profiadau pawb trwy’r cyfnod clo”

Yn ystod y pandemig, mae elusen Anabledd Cymru wedi tynnu sylw at sut mae pobl anabl wedi byw bywydau mwy ynysig nag eraill.

Dywedodd Tina: “Oedd eisiau cofio pawb [yn y cyfnod clo], ond fi’n credu oedd pobl anabl yn cael eu anghofio amdano.”

Yn ôl yr elusen, pwrpas y ffilm yw adlewyrchu realiti bywydau pobl anabl yn ystod y cyfnodau clo.

Dyma’r ffilm cyntaf i gael ei chreu gan yr elusen, sy’n dweud y bydd yn “creu ysgogiad ar gyfer newid cadarnhaol” yn y dyfodol.

‘Prosiect rhyfeddol’

Wrth siarad am arwyddocâd ac effaith y prosiect, dywedodd Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Anabledd Cymru: “Mae hwn wedi bod yn brosiect rhyfeddol yn dal bywyd bob dydd pobl anabl yn ystod pandemig Covid-19.

“Mae pob stori unigol yn unigryw ac yn rhoi mewnwelediad personol i uchafbwyntiau ac isafbwyntiau y cyfnod clo.”

Ychwanegodd: “Nid yw’r prosiect hwn yn adrodd materion a heriau ynysu cymdeithasol ac anabledd yn unig yn ystod Covid-19, mae hefyd yn taflu goleuni ar fyfyrio cymdeithasol yn y dyfodol ac yn ceisio creu ysgogiad ar gyfer newid cadarnhaol ac ymdrech i ddylanwadu ar lunio polisïau.”

Bydd y ffilm yn cael ei ddangos am y tro cyntaf nos Wener, 17 Medi am 18:30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.