Newyddion S4C

Cynllun i blannu miloedd o goed bob blwyddyn

Newyddion S4C 17/09/2021

Cynllun i blannu miloedd o goed bob blwyddyn

Mae NFU Cymru wedi lansio cynllun, Tyfu gyda’n Gilydd, gyda’r gobaith i fynd i’r afael â thaclo newid hinsawdd.

Nod y cynllun yw plannu dros 80 miliwn o goed dros y 10 mlynedd nesaf, sy’n gyfystyr â phlannu coed ar ardal maint bron i 4,000 o gaeau rygbi bob blwyddyn.

Mae NFU Cymru yn annog ei aelodau i blannu cymaint o goed ag sy’n bosib fel rhan o’r cynllun gwirfoddol.

Dywedodd Aled Jones, Dirprwy Lywydd NFU Cymru: “Nid dadl o goed neu amaeth ydy hyn, ond mae’r ddau beth yn gallu mynd hefo’i gilydd. Mae’n rhaid i ni weithredu mewn partneriaeth i gael gweld lle ’dan ni am wneud y tyfu ’ma.

“Dwi’n gwybod bod y swm yn swnio’n enfawr, ond pam dach chi’n gwasgaru nhw, ac yn targedu'r llefydd cywir i’w rhoi nhw, dwi’n meddwl y gallen ni gyrraedd hynny, a gwneud hynny heb golli tir cynhyrchiol.”

Mae strategaeth coetiroedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol; plannu o leiaf  2,000 hectar o goed bob blwyddyn - yn 2019 dim ond 80 hectar o goed gafodd eu plannu.

Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig yn cyfaddef bod y targedau yn uchelgeisiol, ond mae hi’n gobeithio y bydd cynlluniau fel ‘tyfu gyda’n gilydd’ yn ei gwneud yn haws i’w cyrraedd.

Dywedodd: “Mae’r targedau yn uchelgeisiol, ac rydym wedi methu â chyrraedd y targed. Rydym nawr yn ceisio gweld pam bod y targedau yma heb eu cyrraedd.

“Mae cynllun ‘tyfu gyda’n gilydd’ NFU yn gweld eu hunain yn rhan o’r datrysiad i gyrraedd y targedau. Felly rydym ni angen gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio gyda phobl sydd eisiau gweithio gyda ni i gyrraedd y targedau sydd wedi’u gosod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.