Disgwyl cyhoeddiad am basbortau brechu yng Nghymru
Mae disgwyl cyhoeddiad ar y defnydd o basbortau brechu yng Nghymru fel rhan o adolygiad diweddaraf y llywodraeth o’r cyfyngiadau coronafeirws.
Bob tair wythnos mae’r rheolau yn cael eu hadolygu, gydag unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi mewn cynhadledd gan y llywodraeth.
Y Prif Weinidog, Mark Drakeford, fydd yn arwain y gynhadledd yn ddiweddarach ddydd Gwener.
Mae’r defnydd o basbortau brechu wedi bod yn bwnc llosg ers tro, gyda nifer o’r gwrthbleidiau yn eu gwrthwynebu.
Yn yr Alban, bydd angen pasbort brechu er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau torfol mawr o ddechrau mis nesaf.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cyflwyno’r pasbortau yn Lloegr am y tro.
Mae’n bosib hefyd y bydd newidiadau i’r cyfyngiadau presennol hefyd yn cael eu cyhoeddi ddydd Gwener wrth i’r mesurau i reoli’r feirws gael eu hadolygu.
Mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu arwyddion cynnar bod nifer yr achosion o Covid-19 yn y wlad yn dechrau gostwng unwaith eto.
Rhwng 5 Medi a 11 Medi, roedd y gyfradd o achosion fesul 100,000 o’r boblogaeth yn 494.3, sy’n ostyngiad o’r 558.6 achos fesul pob 100,000 rhwng 31 Awst a 6 Medi.
Mae’r rhaglen frechu hefyd yn parhau, gyda’r cam nesaf o gynnig brechiadau atgyfnerthu wedi dechrau yng Nghymru ddydd Iau.
Yr wythnos hon, mae’r llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi y bydd plant 12-15 oed yn derbyn cynnig i gael eu brechu rhag Covid-19 dros yr wythnosau nesaf.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am barhau i ganolbwyntio ar adferiad.
Dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew RT Davies: “O ystyried y cynllun brechu gwych, mae’n angenrheidiol fod gweinidogion yn parhau i ganolbwyntio ar yr adferiad a mynd i’r afael â’r pethau sydd bwysicaf i bobl ar draws Cymru gan gynnwys rhestrau aros y GIG a’r adferiad economaidd”.
Bydd cynhadledd y Prif Weinidog yn dechrau am 12:15, gyda’r gynhadledd yn llawn yn fyw ar dudalen Facebook Newyddion S4C.