Newyddion S4C

Gweithwyr rheng flaen y GIG ymhlith y cyntaf i dderbyn trydydd dos o frechlyn Covid-19

16/09/2021
gweithwyr rheng flaen

Mae pobl yng Nghymru wedi dechrau derbyn trydydd dos o frechlyn Covid-19 yn dilyn newidiadau i gyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) 

Pobl dros 50 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen a phobl â chyflyrau iechyd sylfaenol sy'n cael cynnig brechlyn atgyfnerthu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau y bydd llythyrau sy'n gwahodd pobl ifanc rhwng 12 a 15 yn cael eu hanfon o'r wythnos nesaf, gyda disgwyl i'r brechlynnau cyntaf gael eu dosbarthu o 4 Hydref ymlaen. 

Un dos o'r brechlyn Pfizer sy'n cael ei argymell i'r grŵp oedran hynny ar hyn o bryd. 

'Diogelu unigolion'

Staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd y cyntaf dderbyn y trydydd dos ddydd Iau. 

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau ar ei raglen brechlynnau atgyfnerthu ddydd Sadwrn, gan ddechrau gyda phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae byrddau iechyd Bae Abertawe, Hywel Dda, Aneurin Bevan, Caerdydd a'r Fro a Phowys i gyd wedi cadarnhau y byddant yn dechrau cynnig y brechlyn atgyfnerthu i breswylwyr cartrefi gofal a staff gofal iechyd o ddydd Llun, Medi 20.

Bydd y JCVI yn ystyried brechlynnau atgyfnerthu ar gyfer oedolion eraill yn ddiweddarach.

Dywedodd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol gyda chyfrifoldeb dros Frechlynnau: "Heddiw, mae’r dosau cyntaf o’r brechlyn atgyfnerthu wedi'u rhoi i staff gofal iechyd y rheng flaen sy'n gofalu am rai o'n hunigolion mwyaf agored i niwed wrth inni barhau i ddiogelu unigolion rhag y feirws, salwch difrifol a'r risg y bydd raid iddyn nhw gael eu derbyn i'r ysbyty.

Mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd yn annog pawb sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn i’w derbyn.

"Mae rhaglen frechu Cymru wedi bod yn un o’r rhai mwyaf blaenllaw yn y byd i gyd ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda'r Gwasanaeth Iechyd i ddarparu brechlyn atgyfnerthu'r hydref yn ddiogel ac yn effeithlon. 

"Byddwn i’n annog pawb sy'n gymwys i gael brechlyn atgyfnerthu fanteisio ar y cynnig pan fyddan nhw’n cael eu galw am apwyntiad, gan fod posibilrwydd y bydd imiwnedd o'u dosau cynharach o'r brechlyn yn lleihau wrth i amser fynd heibio.

Bydd yr holl frechlynnau'n cael eu darparu mewn cartrefi gofal, canolfannau brechu torfol, ysbytai neu feddygfa.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.