Newyddion S4C

Plant rhwng 12 a 15 i gael brechlyn Covid a phobl dros 50 i gael trydydd dos o'r wythnos nesaf

14/09/2021
Brechiadau yn erbyn Covid-19 yn parhau.

Bydd trydydd dos o frechlyn Covid-19 yn cael ei gynnig yng Nghymru o'r wythnos nesaf ymlaen, yn ogystal ag un dos cychwynnol ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 15 oed. 

Daeth y cadarnhad gan y Gweinidog Iechyd mewn cynhadledd ddydd Mawrth, yn dilyn argymhellion gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), a Prif Swyddogion Meddygol y DU. 

Fe gadarnhaodd Eluned Morgan y bydd brechlynnau atgyfnerthu yn cael eu cynnig i breswylwyr a gweithwyr cartrefi gofal, gweithwyr rheng flaen y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cyn mynd ati i gynnig y brechlyn i bawb dros 50 oed.

Mae hyn yn dilyn cyngor y JCVI, sy'n dweud fod trydydd dos o'r brechlyn yn cynyddu imiwnedd ymhlith y rhai ble mae eu himiwnedd yn debygol o fod wedi gwanhau ers iddynt dderbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn yn gynharach yn y flwyddyn.

Pfizer sy'n cael ei argymhell - ac fe ddylai hyn fod o leiaf chwe mis ar ôl yr ail ddos. 

I bobl ifanc rhwng 12-15 oed, bydd un dos o frechlyn Pfizer yn cael eu dosbarthu o'r wythnos nesaf. 

Un dos o'r frechlyn sy'n cael ei gynnig i'r grŵp oedran yma ar hyn o bryd. 

Wrth gadarnhau'r newid, dywedodd y Farwnes Morgan: “Dydy’r brechiad ddim yn orfodol – penderfyniad i rieni a phlant yw hyn. 

“Byddwn yn gwneud ymdrech i ddarparu’r wybodaeth orau fel y gall plant wneud y penderfyniad cywir.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.