Penderfyniad ar basbortau brechu yn ‘un anodd’, medd gweinidog
Penderfyniad ar basbortau brechu yn ‘un anodd’, medd gweinidog
Mae’r penderfyniad a ddylid cyflwyno pasbortau brechu yng Nghymru yn “un anodd”, yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wrth raglen Pawb a’i Farn nos Fercher: “Mae’n amlwg bod y penderfyniad yn un anodd am y rhesymau ‘wi ‘di clywed heno a hefyd mae e’n bwysig edrych ar hyn yn y cyd-destun ehangach.
“Chimod, mae’n un o’r pethau, un o’r ystod o bethau sydd yn gorfod digwydd, sydd ar gael i lywodraeth”.
Bydd pasbortau brechu yn cael eu cyflwyno yn Yr Alban ddechrau fis nesaf er mwyn cael mynediad i glybiau nos a nifer o ddigwyddiadau torfol.
Ond, ni fydd y pasbortau brechu yn cael eu cyflwyno yn Lloegr am y tro, er nad yw’r Ysgrifennydd Iechyd yno yn gwrthod y syniad yn gyfan gwbl yn y dyfodol.
Bu cynrychiolwyr o’r pedair prif blaid yng Nghymru yn trafod pasbortau brechu fel un o’r pynciau trafod ar y rhaglen ar S4C.
Dywedodd Tomos Dafydd, Dirprwy Gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig: “Dwi’n teimlo bod cyflwyno y pasbort yn codi pob math o gwestiynau dyrys iawn os cai ddweud, cwestiynau moesol, cwestiynau ynghylch data a phreifatrwydd yr unigolyn.
“Ag yn hynny o beth dwi’n teimlo’n gyndyn iawn o weld unrhyw lywodraeth, p’un ai’n lywodraeth yma yng Nghymru neu lywodraeth yn San Steffan yn cyflwyno cynllun o’r fath”.
Dywedodd Heledd Fychan o Blaid Cymru: “Fydde rhaid iddo fo fod mewn meysydd penodol iawn, er enghraifft, pan dwi ‘di clywed gan nifer o bobl ifanc hefyd yn deud fysa lot gwell gynnon nhw o ran os fysa fo’n golygu fod gigs ag ati”.
Ychwanegodd: “Dwi yn meddwl mae o yn tynnu oddi wrth y neges bwysig iawn o ran y bobl sy’ heb gael eu brechu eto a’r pwysigrwydd hynny”.
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, fod ei phlaid hefyd yn gwrthwynebu’r defnydd o basbortau brechu yng Nghymru.
“A dyma’r rheswm, hawliau pobol i cael y cyfle i mynd allan, ‘di o ddim yn effeithiol, dyna beth ‘dan ni’n clywed, ‘di o ddim yn effeithiol, a pryd mae’n stopio?”
Mae disgwyl cyhoeddiad ar y defnydd o basbortau brechu yng Nghymru cyn diwedd yr wythnos fel rhan o adolygiad diweddaraf Llywodraeth Cymru.