Newyddion S4C

Angen 'blaenoriaethu trais yn erbyn menywod' yn yr un modd â therfysgaeth

Sky News 17/09/2021
Sarah Everard

Mae adroddiad newydd wedi dod i'r casgliad y dylai trais yn erbyn menywod gael ei flaenoriaethu yn yr un modd â therfysgaeth.

Cafodd yr adroddiad gan yr Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard. 

Fe arweiniodd llofruddiaeth Ms Everard ym mis Mawrth eleni at brotestiadau eang i dynnu sylw at drais yn erbyn menywod.

Yn ôl Sky News, mae'r adroddiad wedi darganfod "problemau o anghydbwysedd ac anghysondeb" yn ymateb yr heddlu i drais yn erbyn menywod yn y Deyrnas Unedig. 

Mae'r adroddiad hefyd yn galw ar sawl newid yn y ffordd mae troseddau yn erbyn menywod a merched yn cael eu blaenoriaethu ac yn tynnu sylw at sawl maes lle mae'n rhaid i blismona wella, gan gynnwys yn y nifer o achosion sydd yn dod i ben heb gyhuddiad. 

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.