Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar ddydd Mercher, 1 Medi.
Cost cyllid i fyfyrwyr wedi codi 35% i'r llywodraeth mewn pedair blynedd
Mae costau cyllid myfyrwyr yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl adroddiad newydd. Ar drothwy dechrau tymor prifysgol newydd, mae adroddiad gan gorff Archwilio Cymru yn dangos fod Llywodraeth Cymru wedi talu bron i £1.1 biliwn mewn benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr yn 2019-20, sy’n gynnydd o 35% ers 2015-16. Yn ôl Archwilio Cymru mae angen i’r llywodraeth adolygu’r data ar lefel Cymru a thrwy “adrodd yn rheolaidd ar ddarlun cynhwysfawr o berfformiad y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr”. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C y byddan nhw’n ystyried yr argymhellion fel y bo’n briodol.
Llywodraeth y DU yn trafod ffawd Prydeinwyr Afghanistan gyda'r Taliban
Mae’r DU mewn trafodaethau gyda’r Taliban i sicrhau y gall Prydeinwyr adael Afghanistan yn ddiogel, yn ôl y llywodraeth. Mae cynrychiolydd arbennig y llywodraeth ar gyfer pontio Afghanistan, Syr Simon Gass, wedi cwrdd ag aelodau o’r Taliban yn Doha, Qatar. Mae trafodaethau hefyd i sicrhau ymadawiad diogel i Afghaniaid sydd wedi gweithio gyda’r DU dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Mandad am refferendwm annibyniaeth newydd i’r Alban yn ‘ddiamheuol’
Mae yna fandad “diamheuol” yn yr Alban ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yn dilyn cytundeb llywodraeth yr Alban i rannu grym gyda’r Blaid Werdd, yn ôl y Prif Weinidog Nicola Sturgeon. Mae’r cytundeb, sydd bellach wedi’i gymeradwyo gan y ddwy ochr, yn golygu bod Gwyrddion yr Alban yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU.
Galwadau i newid arferion siopa sy’n ‘ddinistriol’ i’r blaned
Mae elusen Oxfam yn annog pobl ledled y wlad i brynu dillad ail-law yn unig ym mis Medi er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r effaith “ddinistriol” mae ffasiwn cyflym yn ei gael ar y blaned. Mae ffasiwn cyflym yn cael ei ddisgrifio fel ffasiwn sy’n cael ei gynhyrchu yn gyflym ac yn rhad, ac sy’n aml yn cael ei daflyd ar ôl ei wisgo ambell waith.
Dyn yn cropian i gopa’r Wyddfa mewn 13 awr i helpu eraill
Mae dyn wedi treulio 13 awr yn cropian i gopa’r Wyddfa mewn gobaith i helpu eraill ar ôl iddo ddioddef anaf a newidiodd ei fywyd. Fe wnaeth Paul Ellis, 56, gropian i godi arian i Amp Camp Kids, elusen sy’n helpu plant sydd wedi colli rhannau o’u cyrff. Mae’r gŵr o Widnes yn benderfynol o helpu eraill, ac fe lwyddodd i gasglu dros £24,000 i’r elusen ar ei daith.
Cymru’n herio’r Ffindir wedi newidiadau munud olaf i’r garfan
Fe fydd tîm pêl-droed Cymru yn wynebu’r Ffindir mewn gêm gyfeillgar yn Helsinki nos Fercher. Daw hyn wrth i’r rheolwr dros dro, Rob Page, orfod gwneud newidiadau i’r garfan oherwydd anafiadau ac achos positif o Covid-19. Fe fydd y gic gyntaf yn y Stadiwm Olympaidd, Helsinki am 17:00.
Dilynwch y datblygiadau diweddaraf drwy gydol y dydd ar ap a gwefan Newyddion S4C.