Cost cyllid i fyfyrwyr wedi codi 35% i'r llywodraeth mewn pedair blynedd
Mae costau cyllid myfyrwyr yng Nghymru wedi cynyddu'n sylweddol i Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl adroddiad newydd.
Ar drothwy dechrau tymor prifysgol newydd, mae adroddiad gan gorff Archwilio Cymru yn dangos fod Llywodraeth Cymru wedi talu bron i £1.1 biliwn mewn benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr yn 2019-20, sy’n gynnydd o 35% ers 2015-16.
Dros yr un cyfnod, mae’r adroddiad yn nodi fod cyfanswm gwerth y benthyciadau i fyfyrwyr sy’n ddyledus i’r llywodraeth wedi cynyddu o £3.2bn i £5.3bn.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw am wella’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn monitro perfformiad y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.
Yn ôl Archwilio Cymru mae angen i’r llywodraeth adolygu’r data ar lefel Cymru a thrwy “adrodd yn rheolaidd ar ddarlun cynhwysfawr o berfformiad y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr”.
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Newyddion S4C y byddan nhw’n ystyried yr argymhellion fel y bo’n briodol.
Mae Archwilio Cymru yn dweud na fydd Llywodraeth Cymru’n cael popeth sy’n ddyledus iddi mewn addaliadau ar fenthyciadau yn ôl.
Yn 2019-20, roedd Llywodraeth Cymru’n amcangyfrif y byddai’n adennill 65c am bob £1 sy’n ddyledus iddi drwy fenthyciadau i fyfyrwyr.
Mae hyn yn llai na’r 81c roedd y llywodraeth yn amcangyfrif y byddai’n ei adennill yn 2015-16, yn ôl Archwilio Cymru.
Dywed y corff fod hyn yn bennaf am fod newidiadau i’r pecyn cymorth ariannol wedi arwain at fwy o fyfyrwyr yn cymryd benthyciadau mwy, ac sy’n llai tebygol o gael eu had-dalu’n llawn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu canfyddiadau Archwilio Cymru ein bod yn rheoli cyllidebau cyllid myfyrwyr mewn modd effeithiol a byddwn yn ystyried yr argymhellion sy'n ymwneud â'n perthynas â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr fel y bo'n briodol”.