Y tywydd poeth eithriadol yn creu difrod i gledrau trenau ac achosi oedi

Tren TFW

Mae'r tywydd poeth eithriadol wedi effeithio ar drenau yn y de, gan arwain at ganslo rhai gwasanaethau.

Cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru ddydd Sadwrn na fydd trenau'n cludo teithwyr rhwng Pontypridd, Merthyr ac Aberdâr, gan fod difrod wedi ei achosi i'r cledrau o achos y tywydd poeth.

O ganlyniad, am resymau diogelwch, ni fydd rhai gwasanaethau ar gael am y tro.

Pwysleisiodd y cwmni bod y penderfyniad wedi ei wneud i sicrhau diogelwch teithwyr a gweithwyr sy'n rhedeg y gwasanaeth.

Mae teithwyr wedi eu cynghori i wirio am y wybodaeth ddiweddaraf cyn ymdrechu i deithio ddydd Sadwrn rhwng y gorsafoedd hyn.

Fe allai'r oedi barhau am beth amser wrth i'r gwaith atgyweirio fynd yn ei flaen meddai Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tymheredd fod mor uchel a 34C mewn rhai ardaloedd o dde Cymru dydd Sadwrn.

Fe allai'r sefyllfa effeithio ar bobl oedd wedi gobeithio teithio ar drenau i Gaerdydd ar gyfer ail gyngerdd Stereophonics o'r penwythnos yn Stadiwm Principality.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.