Dyn mewn cyflwr difrifol iawn wedi ymosodiad yn Y Rhyl
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad yn y Rhyl, sydd wedi gadael dyn gydag anafiadau difrifol.
Digwyddodd yr ymosodiad ger siop bwcis William Hill ar Ffordd Wellington yn oriau mân bore dydd Sadwrn.
Ychydig cyn 00.30, aeth swyddogion a chriwiau ambiwlans i'r lleoliad yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi dioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Cafodd y dioddefwr 40 oed ei gludo i Ysbyty Stoke ac mae'n parhau mewn cyflwr difrifol iawn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Evans: "Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a allai fod wedi gweld y digwyddiad hwn i ddod ymlaen.
"Hoffwn hefyd ofyn i unrhyw un a oedd yn gyrru yng nghanol y dref ar yr adeg hon wirio unrhyw luniau camera dashcam sydd ganddynt.
"Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gwneud ymholiadau yn ardal y Rhyl a bydd trigolion yn gweld mwy o bresenoldeb heddlu wrth i'r ymchwiliad hwn fynd yn ei flaen."
Mae modd rhannu gwybodaeth a allai gynorthwyo'r ymchwiliad drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod C104697.