Llywodraeth y DU yn trafod ffawd Prydeinwyr Afghanistan gyda'r Taliban
Mae’r DU mewn trafodaethau gyda’r Taliban i sicrhau y gall Prydeinwyr adael Afghanistan yn ddiogel, yn ôl y llywodraeth.
Mae cynrychiolydd arbennig y llywodraeth ar gyfer pontio Afghanistan, Syr Simon Gass, wedi cwrdd ag aelodau o’r Taliban yn Doha, Qatar.
Mae trafodaethau hefyd i sicrhau ymadawiad diogel i Afghaniaid sydd wedi gweithio gyda’r DU dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Daw hyn wrth i’r Gweinidog Tramor Dominic Raab ddweud y byddai’n “heriol” i Brydeinwyr sydd wedi eu gadael yn Afghanistan i ddod o hyd i lwybr i gyrraedd y DU.
Dywedodd wrth Sky News bod y nifer o Brydeinwyr oedd heb adael y wlad yn rhan o gynllun ffoi'r DU yn y “cannoedd isel”.
Yn ôl Mr Raab, mae hi’n “aneglur” pryd y bydd y maes awyr ym mhrif ddinas Afghanistan, Kabul, yn gweithredu eto, gan gynghori’r rhai sy’n dymuno gadael y wlad i geisio teithio i’r DU drwy wledydd cyfagos.
Darllenwch y stori’n llawn yma.