Mandad am refferendwm annibyniaeth newydd i’r Alban yn ‘ddiamheuol’
Mae yna fandad “diamheuol” yn yr Alban ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth yn dilyn cytundeb llywodraeth yr Alban i rannu grym gyda’r Blaid Werdd, yn ôl y Prif Weinidog Nicola Sturgeon.
Mae’r cytundeb, sydd bellach wedi’i gymeradwyo gan y ddwy ochr, yn golygu bod Gwyrddion yr Alban yn rhan o lywodraeth am y tro cyntaf yn unrhyw le yn y DU.
Dywedodd Ms Sturgeon wrth Holyrood ddydd Mawrth mai un o elfennau allweddol y cytundeb oedd cyflawni’r hyn a ddywedodd oedd y “mandad democrataidd i adael i bobl yr Alban i ddewis ein dyfodol ein hunain”.
Dywedodd Ms Sturgeon: “Mae’r mandad ar gyfer hynny yn ddiamheuol - rhyngom ni, mae’r SNP a’r Gwyrddion yn dal 72 o’r 129 sedd yn y senedd hon ac etholwyd pob un ohonom ar ymrwymiad i refferendwm annibyniaeth.”
Ychwanegodd nad yw’r cytundeb rhwng y ddwy blaid yn glymblaid ffurfiol, gan y bydd yr SNP a’r Gwyrddion yn “cadw lleisiau gwahanol a hunaniaethau annibynnol ”, yn ôl The Independent.
Darllenwch y stori’n llawn yma.